Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y D Y S G E D Y I) D a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gvf.—7SS.] HYDREF, 1887. [Cvf. Newvdi>-1SS. Juvat antif[Uos acceäerefoiites. GAN Y PilOFF. W. RHYS ROBERTS, M.A., PRIFYSGOL BANGOR. Yr ydym newydd fod yn dathlu Jiwbili y Frenhines. Clywsora lawer am y gorchestion gwyddorol, llcnyddol, a chymdeithasol, a hynodasant haner can mlynedd teyrnasiad ei Mawrhydi. .ìíuom yn ymfalchîo yn y bedwar- edd ganrif ar bymtheg enwog hon, ac yn diolch i'r nef hwyrach am gael o honom ein geni mewn oes sydd (a'i chymeryd oll yn oll) yn cynyg cyíieus- derau mor luosog a gobcithion mor dda. Ond efallai nad digon hyn o warogaeth i'r oes i foddloni pawb. Y mae'r oes hon, medd rhai, nid yn unig yn fawr ac yn rhyfedì, ond gymaint yn fwy ac yn rhyfeddach nag unrhyw un o'r rhai blaenorol, fel y dylai fyned yn mlaen ar ei phen ei hun heb unwaith edrych yn ol ar y gorphenol. Pa reswm aellirroddi, gofynaut, o blaiddysgeidiaeth Groeg yu y dyddiau hyn? Paham y dylem ni bendroni gyda gorchwylion pobl y darfu am danynt er's canrifoedd? Mae hyn yn afresymol mewn oes mor oleuedig a'r eiddom ni. Ond a ddarfu i'r rhai hyn ystyried erioed pa beth a fyddai y canlyniad o ddilëu, pe byddai hyny yn ddiclionadwy, y Grroegiaid a'r hyn oll agyíiawnwyd ganddynt oddiar ddarlunlen haucsiaeth? Onid i'r Groegiaid yr ydym yn ddyledus am y drychfeddwl o gynydd, a'r symbyliad sydd ynddo ? Onid y Groegiaid a wnaethant yr ymdrecli egniol cyntaf am ryildid ? Onid y Groegiaid a gynyrchasant y gweithiau prydyddol a rhyddieithol cyutaf yu gystal a goreu? Onid y Groegiaid a luiiiasant yr iaith ardderchog hòno, yn yr hon y pregethwyd yr efengyl i'r cenedloedd yn nyddiau boreuaf yr Eglwys? " Nis gellir gwadu y pethau hyn; ac os bydd i ryw fawrygwr llenyddiacth ddiweddar a diystyrwr yr heu oesoedd ofyn i ni, "Onid gwell Abaua a Pharpar, afonydd Damaseus, na lioll ddyfroedd Israel?" rhaid ateb: Er nad ydym ni yn diystyru eicli "Àbana" chwi a'ch "Pharpar," eithr yn hytrach yn eu hedmygu a'u caru i'r eithaf, nis gallwn lai na glynu wrth eiu harwydd- air,juvat antiquos accederefontes. Gadewchi ni drosenyddroi rhai o brif dudalcnauhancs Groeg. Declireu- wn gyda Homer, yn yr hwn cr nad hawdd dynodi pa faint o ryfel Caerdroia sydd yn hanesiacth a pha faint sydd wedi tarddu o bcu y bardd, y mae hyn o leiaf yn ddiaraheu, fod cyindcithas o'r fath a ddarlunir ganddo wedi bod yn rhywle rywbryd. Ac mor brydfuth yw y gymdeithas hon, heb ynddi ddim salw na gwael. Mor odidog yr esiamplau o bob rhinwedd: o wroldeb diofn yn Achill, o ddoethineb amyneddgar yn Odysseus, o gariad gwreig- aidd yn Andromache a Penelope, o ddiniweidrwydd morwynaidd yn 2 E