Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr ünwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—790.] RHAGFYR, 1887. [Cyf. Newydd—190. ö§r 030Üpì)0 ÛDIatol, DEDDF YR UNFFURFIAD, AC ERLEDIGAETHAU Y DYDDIAU GYNT. GAN Y DIWEDDAR HYBARCH R. TIIOMAS (AP VYCHAN). Y Diwygiad Protestanaidd yn ddiamheu ydoedd y symudiad pwysicaf er dyddiau yr apostolion. Symudiad crefyddol mawr yn yr iawn gyfeiriad ydoedd, a bydd ei effeithiau ar eglwys Dduw hyd ddiwedd y byd. Yn gy- ffredin iawn fe fydd arwyddion yr amserau yn cyfeirio yn mlaen llaw at gyfnewidiadau mawrion a phwysig, ac felly yr oedd amryw o bethau y pryd hwnw yn rhagddangos fod rhyw bethau pwysig yn agoshau. Yr oedd rhagbarotoadau at ryw bethau mawrion i'w gweíed yn mhob man. Yr oedd cwmpas y morwr wedi ei ddyfeisio; yr oedd arfau tân a phylor wedi eu dwyn i yraarferiad; yr oeddgwneud papyr ac argraffu wedi eu dyfeisio; yr oedd rhyfeloedd y groes wedi darfod; yr oedd America wedi ei dargan- fod, a ffordd i'r India heibio i Bcnrhyn Gobaith Da wedi dyfod i'r goleu. Yr oedd rhyw ysbryd masnachol anturiaethus wedi meddianu amryw o genedloedd. Ýr oedd dysgeidiaeth yn ymadfywio wcdi tywyllwch y canol- oesoedd. Yr oedd yr efengyl wedi dechreu cael ei phregethu yn ei phurdeb yn Lloegr gan Wickliffe, ac ar y Cyfandir gan Huss a Jerome, a'r byd fel pe buasai yn dyheu am gael newid ei gyflwr o'r peth fuasai er's oesoedd. O'r diwedd dyma wawr y Diwygiad rnawr yn tori ar Ewrop trwy Luther, Melancthon, a'u cydlafurwyr, ac awdurdod y Pab mewn pethau crefyddol yn dyfod yn destun dadl ac amheuaeth; ac fel yr oedd y diwygiad yn gweithio ei ffordd yn mlaen, yr oedd gorsedd Rhufain yn siglo hyd ei sylfeini, a llawer yn dysgwyl y pryd hwnw, fel yr ydym ninau yn bresenol, fod diwedd Pabyddiaeth wedi dyfod, ac yr ydoedd wedi dyfod mewn ystyriaeth, oblegid ni allodd Pabyddiaeth byth ymiachâu o'r briwiau a gafodd y pryd hwnw, ac ni wel hi ddiwrnod o iechyd mwy nes y trengo yn lan. Fe gerddodd egwyddorion y Diwygiad Protestanaidd fel hylif tanllyd trwy Germani, Ffrainc, Switzerland, Holland, Denmark, Sweden, a rhanau o Itali ei hun. Fe osodwyd Eglwys Brotestanaidd Bresbyteraidd i fyny mewn undeb â'r llywodraeth wladol yn Scotland drwy lafur Knox ac eraill, a math o ryw eglwys esgobaethol, haner Protestanaidd a haner Pabyddol yn Lloegr, a Harri yr Wythfed yn ben arni, yn bab yn hytrach yn lle y Pab o Rufain. Pabydd penboeth fuasai Harri, a phabydd fu ef o rau ei egwyddorion tra fu byw. Ysgrifenodd lyfr ar y saith sacrament yn erbyn Luther a'r Diwygiad Protestanaidd, a chyflwynodd y llyfr i'r pab, a rhoddodd y pab iddo y teitl o Amddiffynwr y Ffydd, yn wobr am ei lafur, yr hwn deitl a 2k