Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HEN Gvf.—821, GORPHENAF, 1890. Cvf. Newydd.—221. ajrç Jíahm. GAN Y PARCH. W. EYANS, ABEfiAERON. "Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ífydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyíìawn- der ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r hlaen. trwy ddyoddefgarwcli Duw. I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyüawn, ac yn cyfìawnhau y nebsydd o il'ydd Iesu."—ÌtiiUF. iií. 25, 20. Mae yr holl fyd dan farn Duw, '• oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Ì)uw." Fel pechaduriaid ni fedd dynion ddim i gymeradwyo eu huuain i ffafr Duw, oblegid " trwy weithredoedd y ddeddf nì chyfiawn- heir un cnawd yn ei oíwg ef; canys trwy y ddeddf y mae adnabod pechod." Nas gall dyn gael ei gadw ar dir deddfsydd amlwg, nid yn unig oddiwrth ei bechadurusrwydd, ond oddiwrth y ffaith o farwolaeth Crist drosto. Bn efe farw yn ofer os o'r ddeddf y mae cyfíawnder. Gweithred rasol ydyw cyfiawnhau yr anghyfiawn: "A hwy wedi eu cyfìawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu." Mae cysylltiad y ddau air, gras a phrynedigaeth, yn yr adnod yna yn dangos, er fod pechadur yn cael ei gadw heb gyfiawnder deddfol, nad yw deddf yn cael ei hanwybyddu, a'i throi o'r neilldu yn ei gadwedigaeth. Nid yw gras yn diddymu rhwym- edigaeth deddf; ni byddai ystyr o gwbl i'r frawddeg, "Trwy y prynedig- aeth sydd yn Nghrist Iesu," pe na chydnabyddid bodolaeth deddf mewn cadwedigaeth trwy ras; prynedigaeth yw gwaredu trwy werth neu iawn, fel y profa y geiriau ca'nlynol: " Ÿn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodan, yn ol cyfoeth ei ras ef." "Gan wybod nad â phethau llygredig, megys arian neu aur, y'ch prynwyd oddiwrth eich ofer ymarweddiad, eitìir â gwerthfawr waed Crist, megys oen difeius, a difrycheulyd." Dysgir hyn hefyd yn ngeiriau y testun: " Yr hwn a osododd Duw yn iawn (neu a osododd allan yn iawn), trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef," sef ei drefn i gyfìawnhau yr annnwiol. Gesyd ffydd allan yr ochr ddynol, a'r gwaed yr ochr ddwyfol, i'r drefn hon. 'Trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch, (neu oddefgarwch Duw, sef y pechodau a gyfiawnwyd dan yr hen oruchwyliaeth), I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn (sef ei gyfiawnder darparedig trwy Iesu Grist), fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesn." Yn gyfiawn fel deddfroddwr a llywodraethwr, ac yn gallu cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu, yr hwn a osodwyd yn iawn dros ein pechodau. Mae yn eglur y golygai yr Apostol na állai Duw fod yn gyfiawn, a, chyfiawiihan., ar uu tir arall. Sylwn:—