Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ì-'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf,—829. MAWRTH, 1891. Cyf. Newydd.—229. GAN Y PARCH. R. WILLIAMS (HWFA MON). [Ar anogaeth Cyfarfod Chwarterol Dinbych a Fflint, cyflwynir yr ysgrif hon i'r Dysgedydd.] I. Y Sabbath a'r Sul. Diau mai nid anfuddiol fyddai rhoddi ychydig o eglurhad ar y gwahaniaeth sydd rhwng yr enw Sabbath, a'r enw Sul. Gair Hebraeg yw y gair Sabbath, a'i ystyr ydyw gorphwysfa. Y Sabbath cyntaf oedd y seithfed dydd o'r wythnos, sef y dydd y gorphwysodd Duw arno ar ol iddo orphen gwaith y greadigaeth. Nid yw y gair gorphicys yma yn golygu fod Duw wedi blino wrth y gwaith o grëu, oblegid nid yw Duw yn blino wrth weithio fel y mae y creadur: "Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tra- gwyddoldeb, Creawdwr cyrau y ddaear?" Esa. xl. 8. Felly wrth y seithfed dydd yma y meddylir y dydd y peidiodd Duw a chrëu. Ac er mwyn gwahaniaethu y seithfed dydd oddiwrth y dyddiau eraill, rhoddodd Duw sêl arbenig a bendigaid arno: "A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i santeiddiodd ef; oblegid ynddo y gorphwysasai oddi- wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i'w wneuthur," Gen. ii. 3. Duw a alwodd y seithfed dydd yn Sabbath, ond y cenedlddyn a'i galwodd yn Sul. Arferai y cenedloedd boreuol roddi addoliad i'r haul, yr hwn cedd eu prif eilun-dduw wybrenol, ac o herwydd mai ar y seithfed dydd yr aríerent aberthu, ac offrymu i'r haul, galwasant y seithfed dydd yn Sul, yn Jle y Sabbath, a hyny er mwyn anrhydeddu eu heilun-dduw yr haul. Tybia llawer mai nid priodol yw i'r Cristionogion roddi yr enw paganaidd Sul a'r ddydd y Duw byw, ond mai eu dyledswydd ydyw cadw at yr enw cyntefig Sabbath. Barna eraill, gan fod Crist yn cael ei alw yn Haul cyfiawnder yn y Beibl, mai nid anmhriodol yw galw y Sabbath yn Sul. Dyweda y Crynwyr mai nid gweddus yw galw y dyddiau na'r misoedd ar enwau y byd- oedd wybrenol, oblegid fod yr arferiad yn deilliaw oddiwrth eilunaddoliaetb, ac yn awgrymu eu bod wedi eu cysegru i'r duwiau paganaidd, Llun, Mawrth, Mercher, Iau, &c. Ond fodd bynag amy pethau hyn, y maeyn ddiamheuol na chyfeiliornwn wrth ddilyn y cyfarwyddiadau ysgrythyrol gydag enw y dydd Sabbath, canys Duw a roddodd i'r dydd yr enw Sabbatb, a'r cenedl- ddyn a roddodd iddo yr enw Sul. II. Parhad Neillduad y Seithfed Dydd. Nid oes genym hanes pendant am neillduad cysegredigol y seithfed dydd drwy yr oes batriarchol, ond er hyny y mae genym le i gasglu yn naturiol