Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A'R HWN YR TJNWYD " YR ANNIBYNWYR." IlEN GYF.-832 MEHEFIN, 1891. Cyf. Newydd.—232. GAN GYMRO. III. JEREMIAH YN YR ATPHT. TAl'ANJIES, Yn ol pob arwydd allanol, dyddiau dedwydd oedd dyddiau galwad Jeremìah i waith a swydd prophwyd. Brenin un ar hugain oed, a phrophwyd un ar bynitheg oed—dyma'r ddau sydd yn sefyll o'n blaen yn nghyfnod diwedd- araf yr Hebreaid; a phan yr edrychom ar y ddau—nerth ac egni, a thalent ac awdurdod wedi eu cysegru at wasanaeth rhinwedd, yr ydym yn dweyd wrthym ein hnnain fod amser braf gerllaw, gwell nag amseroedd Amon a Manasseh. Yn y dyddiau gynt, dau allu cryf yn unig oedd yn y byd—yr Aipht ac Assyria; ond yn anffodus i'r wlad fechan rhwng Dan a Beersheba, gor- weddai rhwng y ddau, ac o ganlyniad yn ei therfynau hi yn aml yr ymladdai'r ddau â'u güydd, a'i meddianu hi oedd lawer tro yn asgwrn y gynen. Yn amseroedd Thothmes a Rameses, yr oedd yr Aipht yn gallu gwneud fel y mynai ag Assyria; ond yn nyddiau Amon a Manasseh, Assyria oedd ar yr uchelfanau, a'r Aipht yn rhan o'i theyrnas. Sardanapalus, brenin Assyria, oedd brenin yr Aipht y pryd liyu, ac yn debyg o fod felly am amser hir; ond rhyfedd fel y mae'r annhebygol yn dygwydd, ar farwolaeth Sardanapalus, dyma'r deyrnas fawr yn tori i fyny. Ymgododd Media, Elam, a Babilon mewn gwrthryfel; ac fel y gwyr y darllenydd, llyncwyd Assyria cyn pen hir gan Babilon. Yr oedd Sardanapalus wedi gadael yr Aipht yn nwylaw rhyw 20 o dywysogion; a rhwng y gwahanol frenhinoedd bach hyn, credai y gallai gadw'r Aipht yn dalaeth i Assyria; ond er gwaned ydoedd cyflwr yr Aipht, yr oedd bywyd ynddi hi; ac fel arwydd o hyn, ar dderbyniad y newydd am helbulou Assyria, wele un o'r tywysogion o'r enw Psaratik yn cyhoeddi ei hun yn frenin yr Aipht—Pharaoh Psammetichus i. Yr oedd gormod o waith ar law gan Assyria i gymeryd unrhyw sylw o dywysog bach yr Aipht, a diamheu y meddylid nad allasai ddal ei dir yn erbyn y pedwar ar bymtheg eraill; ond trwy gyflogi y Groegiaid, Ionians Carians ac eraill i ymladd drosto, wele Psamtik ar yr orsedd. Wedi enill y goron, ei chadw oedd y peth nesaf; a chan mai y Groegiaid oedd wedi ei rhoddi ar ei ben, yr oedd yn rhaid cadw'r Groegiaid. Felly