Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a'r hwn yr ünwyd "yr annibynwr." Hen. Gyf.— 842. EBRILL, 1892. Cyf. Newydd—242. GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL. "Ac o'r dydd y trigodd yr Arch yn Ciriath-jearim, y bu dyddiau lawer; uid amgen nag ugaiu mlynedd; a holl dŷ Iíiael a alarasant ar ol yr Arglwydd."— 1 Samuicl vii. 2. Mae y testun yn rhagarweiniad i hanes diwygiad cenedlaethol pwysig a gymerodd le yn nyddiau Samuel, yr olaf o'r barnwyr ar Israel. Yr oedd yr arch erbyn hyn wedi ei dwyn i dŷ Abinadab ar fryn Gibeah; ac Eleazar ei fab ef wedi ei neillduo i gadw arch yr A.rglwydd; ac yr oedd wedi bod yno bellach am ugain mlynedd. Yr arch oedd yn cynrychioli Duw yn mysg y genedl, fel y mae ei achos yn ei gynrychioli gyda ni, ac ymddygiadau dynion tuag at yr arch, oedd eu hymddygiadau tuag at Dduw. Yr oedd crefydd yn Israel y'n yr adeg yma wedi disgyn yn isel iawn, ond ymwelodd Duw â'i bobl mewrn adfywiad grymus, un o'r rliai grymusaf a fu yn hanes y genedl. Cofnodir am adfywiadau neillduol ar grefydd mewn gwahanol gyfnodau yn mysg y genedl, o'r diwygiad nodedig yn Bochim, yn nyddiau y cyntaf o'r barnwyr, hyd at ddiwygiadau mawrion yn nyddiau Asa, a Josiah, a Hezec- iah, ac eraill o frenhinoedd Israel a Judah; ac yn wir hanes adfywiadau ac adfeiliadau, diwygiadr.u a dirywiadau ydyw holl hanes crefydd yn mysg y genedl. Ond ni chofnodir o gwbl am adfywiad cyífelyb i hwn yn nyddiau Samuel. Gellir yn briodol ei alw yr Adfywiad yn Mispah, oblegid mai yno y cyrhaeddodd i amlygrwydd mawr, ac yr aeth y bobl o dan gyfamod yn gyhoeddus i geisio yr Arglwydd. Ond ceir yma yr elfenau sydd yn mhob Diwygiad Cenedlaethol. Edrychwn arnynt, 1. Adfywiad o adfeiliad mawr ydocdd. Yr oedd pethau yn flaenorol iddo wedi disgyn yn isel iawn. Dichon ua bu cyflwr y geuedl yn is yn wladol a chrefyddol mewn unrhyw gyfnod yn ci hanes. Yr oedd y Philistiaid yu arglwyddiaethu arnynt, eu dinasoedd wedi eu meddianu ganddynt, a hwy- thau wedi eu llwyr ddarostwng. Daeth y dirywiad i mewn yn raddol. gan ddisgyn yn ddyfnach o hyd. Mor foreu a dyddiau Samgar, mab Anath, yr oedd y llwybrau wedi myned yn anhygyrch, a'r Philistiaid wedi gwneud en rhuthr ar lwythau Dan a Judah. Rhoddodd yr Arglwydd ymwared ar am- serau i'r genedl trwy law Deborah, a Samson, a Jephtha, ond y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu. Yr oeddynt wedi llwyr ddinystrio pob Jorge a foundry ac efail trwy y tir, ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel, rhag rhoddi cyfle iddynt i wneud arfau rhyfel; a gorfodid hwy i fyned i waered at y Philistiaid i flaenllymu y swch, y fwyell, y cwlltwr, a'r gaib at en gwasanaeth: