Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hin Gyf.—843. MAI, 1892. Cyf. Newydd—243 Mlm ^ìmhUoI a Ulm Emtutoiirí, GAN Y PARCH. D. M. .TENRINS, LIVERPOOL. A oes gormod o grefydd yn bosibl? A oes mesur o ddrwg yn oddefadwy? Geiriau rhyfedd, mcwn llyfr fel y Beibl, yw y geiriau hyny yn Pregethwr rii. 16—17, "Na fydd ry gyfiawn; * * na fydd ry annuwiol." Nid yw yn anhawdd gwybod ar unwaith, fel rheol, ar ba ochr i gwestiwn y mynai gair Duw. i ni gymer/d ein safle; oud dyna eiriau tebyg iawn i eiriau un yn credu mwy mewn policy nag mewn egwyddor—un yn traethu am ffordd dedwyddwch mewti geiriau mor an- mhenodol, fel y mae yn anhawdd gwybod yn sicr pa un ai yn ochr Duw a santeiddrwydd, ynte yn ochr diafoì a phechod, y mynai i ni fod. Ac os cymerwn y geiriau fel mynegiad diírifol o wir argyhoeddiad y pregethwr am ffordd dedwyddwch, bydd yn rhaid i ni ar unwaith gydnabod fod safon moes- oldeb yn llawer is yn y llyfr hwn, na'r hon a ddelir o'n blaen mewn rhanau eraill o'r Beibl. Mae yr ymadroddion, "Na fydd ry gyfiawn," a byddwch chwi gan hyny yn berffaith, "na fydd ry annuwiol," ac "ymgedwch rhag pob rhith drygioni," yn perthyn i ddwy gyfundraeth foesol, sy'n hanfodol wrth- wynebol i'w giîydd—y maent mor belled a'r pegynau y naill oddiwrth y llall. Fe edrychid ar y cyntaf ar ddau ymadrodd gan lawer o'r hen esbonwyr, fel gocheliad rhag rhyw grefyddolder honiadol afìachus—rhyw phariseaeth ymhongar sy'n tramgwyddo yn erbyn pob gwelltyn o anmherffeithrwydd defodol, ac ar yr un pryd efaìlai yn ìnyned heibio i farn a chyfiawnder Duw. Ond nid gormod o dduwioldeb ydyw y ffurfioldeb honiadol sy'n gwneud teilyngdod o'r mintys, a'r anys, a'r cwmin, ac yn myned heibio i bethau trymach y gyfraith. Nid gorinod o grefydd ydyw hidlo gwybed o bechodau allanol, a llyncu'r camelod sy'n difwyno'r galona'r gydwybod yn mhresenoldeb Duw. Bffaith syniad cyfeiliornus ac annigonol am yr hyn ydyw duwioldeb yn ei hanfod yw yr honiadaeth afìachus hon. Ond y maVr ymadrodd, "na fydd ry annuwiol," yn milwrio yn erbyn esboniad yr hen bobl ar yr ymad- rodd, "na fydd ry gyfiawn." Nis gall mai yn erbyn honiadaeth fostfawr mewn byw yn annuwiol yn unig y llefara llyfr santaidd dwyfol fel y Beibl ar unrhyw achlysur. Fe gondemnir annuwioldeb araf ganddo ef yn gystal a'r annuwioldeb rhwysgfawr sy'n terfynu mewn angeu cyn yr amser. Ac y mae'r ddau ymadrodd yn edrych ar fywyd oddiar yr un safbwynt hunan- geisiol a'u giiydd. Tr hyn ydyw pwrpas y naill dyna ydyw pwrpas y îlall, 8ef gwasanaethu i esmwythyd a diogelwch y bywyd y mae Duw wedi ei roddi i ddynion ar y ddaear hon. Yt wyf yn cymeryd fod llyfr y Pregethwr wedi ei gyfansoddi ar gynllun