Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a'r hwn yr tjnwyd "yr annibynwr." Hen Gyf — 847. MEDI, 1892. Cyf. Newydd—547. GAN Y PARCH. OWEN EYANS, D.D., LLUNDAIN. Mae nifer o ddynion cnwog a defnyddiol iawn wedi disgyn i'r bedd er dechreu y flwyddyn hon. Nid colled gyffredin i eglwys Dduw oedd colli o fewn llai na haner blwyddyn, y fatli ddynion a Charles Haddon Spurgeon; Dr. Henry Allon; Dr. Ëustace Conderfy Prifathraw T. Lewis, B.A.; Dr. John Thomas; a'r Parch. Henry Simon! " 0 ardderchowgrwydd Israel, hwynthwy a archollwyd ar dy uchel-leoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!" " Trallodion Seion y sydd—yn fawr iawn, Ni fu 'rioed fatli dywydd; Galwyd bron gyda'u giíydd Enwogion dewrion ein dydd." Llawer noson ddedwydd a dreuliais, o bryd i bryd, o dan gronglwyd gar- edig fy anwyl gyfaill Dr. Thomas; a'r tro diweddaf y cefais yr hyfrydwch o dreulio noson yn ei dŷ, oedd noson claddedigaeth ei enwog a'i anwyl frawd Dr. OwenThomas; ond bum ar ymweliadau byrion â'i gartref cys- urus yn y Willows amryw weithiau ar ol hyny. Y noson hono, a chyn i mi ymadael bore dranoetb, ceisiodd genyf barotoi ysgrif ar ei frawd, i'r rhifyn dilynol o'r Dysgedyd:>, am y gwyddai fy mod wTedi cael cyfleusderau lled helaeth i ymgydnabyddu âg ef. Ac er y buaswn yn dymuno i'r gorchwyl gael ei gyflawni gau ryw law fwy gallnog i wneud cyfiawnder â'r gwrth- ddrych, eto nis gallwn feddwl arn nacau cais fy anwyl gyfaill, yn ei aíar a'i hiraeth; ac yr oedd yn hyfrydwcli pruddaidd i mi gael gosod blodeuyn, megys, ar fedd un ag yr oedd genyf barch mor uchel iddo, ac edmygedd mor fawr o hono. Ond Ow! ychydig feddyliwn y bore hwnw, pan yn addaw ysgrifenu yr erthygl l:ono ar gais Dr. John Thomas, y galwesid aroaf i ys- grifenu un gyffelyb arno yntan ar gyfer y rhifyn am yr nn mis o'r Dysged- ydd yn y flwyddyn ddilynol! Ond dyna yw y ffaith alarus, ysywaeth. Y mae y ddau frawd enwog erbyn hyu yn huno yn dawel yn ymyl eu gilydd, yp yr un fynwent; ac y mae priddellau y dyffryn yn felus iddynt ar ol eu diwrnod ardderchog o waith yn ngwinllan eu Harglwydd. Yr oeddynt yn "gariadns ac anwyl yn eu bywyd, ac yu eu marwolaeth m wahanwyd hwynt,?' ond gan lai na denddeng mis. Fe fu cysylltiad agos iawn rhwng Dr. John Thomas a'r Dysgedydd—fel un o'i Olygwyr am dymhor, ac fel un o'i ohebwyr mwyaf cyson a ffyddlawn am flynyddau lawer—ac felly mynych y cyfoethogid dalenau y Dysgedydd â chyoyrchion dyddorol a gwerthfawr ei ysgrifell doreithiog. Mae yn weddus neillduol i'r Dysgedydd, gan hyny, dalu teyrnged o barch i'w goff- 2 B