Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

*Y DYSGEDYDD* Hen G\f.-859. MEDf, 1893. Cyf. NEWYDD.-259. AMHEÜAETH. OAN Y PARCH H. M. IÍUGHES, LE'RPWL. I. AE yn ddyledswydd ar bob dyn, yn enwedig mewn pethau crefyddol, .«u i brofì a barnn yn y modd llymaf y mae yn bosibl iddo, bobpetb y 1 gofynir iddo ei gredu a'i dderbyn. Mae y fath bwysigrwydd yn nglỳn â phethau sydd yn dal y berthynas agosaf â daioni uwchaf dyn, fel na ddylai hebgor trafferth nac aruser, er barnu mewn ysbryd priodol yr hyn a gynygir i'w sylw fel gwirionedd. Mae pob dyn yn gyfrifol am ei gredo,a dylai, mor bell ag y gall, fod yn barod i roddi "rheswm am y gobaith sydd ynddo." Gan fod athrawiaethau ein crefydd yn d'od i diriogaeth gwir- ionedd yn ei ystyr eangaf, rhaid cymhwyso rheswm atynt fel at bob gwirion- edd arall, ac i'r graddau pellaf sydd yn bosibl. Ni ddylai fod arnom ofn hyn; mae Cristionogaeth yn sicr o fod yn rliesymol, er nad, efallai, yn ddeaìladwy yn ystyr gyfTredin y gair. Y perygl mawr yw, gwneud rheswm yr unig safon, neu yn safon terfynol, mewn pethau crefyddol. Os bydd ambell athriwiaeth, nea yr hyn a elwir yn ffaith yn mywyd crefyddol neu ysbrydol yr enaid, yn gyfryw ag nas gall rheswm ei deall na'i hamgyffred, ni ddylai hyny, ynddo ei hun, beri iddi gael ei hamheu na'i gwrthod. Y mae i ffydd a phrofiad eu lle yn nhiriogaeth gwirioneddau crefyddol, ac nis gellir taflu athrawiaethau dros y bwrdd, eri reswm ddadgan yn ea herbyn. os bydd ffydd a phrofiad yn gwrthod eu gollwng. Gallu i weled gwirionedd ydyw rheswm; gallu i'w deimlo ydyw ffydd, acy mae y gwirionedd sydd yn cael ei deimlo yn fynych yn fwy sylweddol a byw na'r gwirionedd y gellir ei esbonio. Dylid cofio fod tiriogaeth ffydd yn eangach o lawer na thiriog- aeth rheswm. Perygl mawr yr oes ydyw dwyfoli rheswm—ei wneud yn farnwr holl- wybodol, a'i ddedfryd bob amser yn derfynol. Pe buasai felly, buasai rheswm dynoliaeth gyda'i gilydd, os nad rheswm dynion yn unigol, "[fel Dmv" a buasai ystyr newydd yn cael ei rcddi i ''grefydd dynoliaeth" (^religion of humanity), a barai i lawer o Gristionogion gonest ei choleddu a'i phroffesu. Ond gwyddom oll fod rheswm yn derfynol iawn. Cwestiwn neu dd*u hollol natnriol a'i dyga yn aml i ben ei denyn. Gellir gofyn cwestiyn- au &mfywyd, a fhrydan, a goìewii, a llu afrifed o ffeithiau na ddychymyga neb am eu hamheu, a wnant i reswm ymddangos yn nodedig o fach. Mewn gair, mae rheswm yn byw mewn maes tri-onglog, digon cyfyng ar raiystyr- on; o'r hyn lleiaf, gwyddis am dri o derfynau i'w diriogaeth. 1. Cyfyngir arno ynfynych gan brindcr y defnyddiau a'r ffeithiau angen- rheidiol (data) % ddaryanfod, mu dynu casgUad% Mae t«rf^n hydyn nod yn äâ