Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SCORPION. 55 Da genym weled arwyddion fod rhai eglwysi a chyfundebau yn dechreu yradeimlo a'u cyfrifoldeb. Amcana Cyfnndeb Sir Feirionydd godi £?00 tuagat y ür>sorfa Ganmlwyddol, heblaw chwyddo y casgliad blynyddol arferol o £213 i £350. Ni bydd hyny am y ddwy flynedd ne-af ond 2c. yn y mis ar gyfer pob aelod. Nid ydym yn teimlo fod esiampl Meirion yn teilyngu eichymeradwyo fel aynllun igyfundebau lluosocach a chyfoeth- ocach yr enwad. Ond pe sylweddoìid amcan Cyfundeb Meirion trwy yr oll o Gymrii, byddai y Drysorfa Ganmlwyddol yn £7,500, a chwyddai y casgl- iad arferol i yn agos £9,000 yn flynyddol. Felly cyfranai Cymru yn ystod pob un o'r ddwy flynedd nesaf y swm o £16,500, yn lle ychydig dros £6,500 fel y gwneir yn awr. Ymddyrchafwn i dir uwchlaw triflo a'r gwaith Cenadol. Bydded i ni weddio am i'r Árglwydd roddi y fraint i ni fel eglwysi o fagu mwy o Genadon—deuai yr arian yn rhwyddach pe rhoddem ein plant i'r gwaith aruchel hwn. Planed Duw uchelgais magu Cenadon yn nghalon- au rhieui crefyddol Oymru. Efelyched rhieni crefyddol ein gwlad esiampl un o dadau rhagoraf Sir Gaerfyrddin. Wedi derbyn y newydd trist am farwoîaeth ei fab, un o ddewrion y Genadaeth yn Nghanolbarth Affrica, dywedai eiriau tebyg i hyn wrth gyfaill iddo, Wel, ergyd drom yw hon, ond yr wyf yn mawrygu Duw yn y cwbl. A phe cawn fyned yn ieuanc drachefn, ac i Dduw o'i ras roddi i mi feibion a merched lon'd fy nhy, mi a'u hoffrymwn oll ar allor ei wasanaeth i gyhoeddi Crist yn ddigonol Geidwad i baganiaid Affrica. Ardderchog! Rhodded yr Arglwydd i ni ddeuparth o ysbryd yr hen bererin duwiol. SCORPION. GAN MR. W. R. OWEN. |}S dygwydd fod rhywun craffach a hynawsach na'i güydd o ddarllen- wyr y Dysgedydd yn cofio fy mod i, beth amser yn ol, wedi dechreu dweyd tipyn o hanes y l'arch. Thomas Roberts (Scorpion), dymunaf yn ostyngedig ei sicrhau mai nid esgeulusdra na diogi a barodd i mi ddjstewi cyhyd, ond ystyriaetb.au sydd mor bwysig fel nad ydynt yn sarhad ar ei graffder, nac yn drais ar ei hynawsedd. Ac wrth y darílenwyr mwyn na wyddant ddim am yr hyn a ysgrifenwyd o'r blaen, gallaf ddweyd na wnaed ond traethu ychydig o helynt ieuenctyd Mr. Roberts hyd at yr adeg pan dderbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu yn Rhagfyr, 1842, ac efe yn chwech ar hugain oed. . Yn ystod blynyddoedd ei efrydiaeth yn Aberhonddu—sef o ddechreu 1843 hyd ddiwedd 1846—yr oedd y Deyrnas Gyfunol yn cael ei chynhyrfu gan rai o symudiadau pwysicaf y ganrif, a phethau yn cymeryd ile oeddynfc i adael nod annileadwy ar ddeddfwriaeth y wlad a daliadau cyhoeddns ei thrigolion mewn crefydd, rhaith, a moes. 1843 oedd y flwyddyn y pro- phwydasai Daniel O'Oonnell mai hi fyddai y Eepeal Year, a buan wed'yn y cododd efe y terfysg Gwyddelig yn erbyn yr undeb i'r fath eithafnod nes y gosodwyd diwedd disymwth arno gan y llywodraetb, trwy daflu O'Oonnell i garchar, a'i ddilynwyr i ddychryn. Tua'r un adeg y dygwyd i derfyn llwyddianus ymosodiadau ffyrnig yr Ymneillduwyr ar adranau addysgol Faciories Bill Syr James Graham—adranau y bu raid iddo eu taflu dros j