Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—877. EBRILL, 1895. Cyf. Newydd—277. "TEYRNAS DDUW, O'CH MEWN CHWI Y MAE." GAN Y PARCH. S. R. JENKINS, B.A., BANGOR. MAE pawb yn cydnabod na lefarodd dyn erioed fel y dyn Crist Iesu, ac nad oes bregeth gyffelyb i'w bregeth ef. Yn nghanot holl "systems" crefyddoì a moesol y byd, paif ar ei phen ei hun fel rhyw fynydd mawr mewn gwastad-diroedd eang. Y mae pob adnod ynddi vn bregeth, ac y mae pob brawddegyn cynwys gwirionedd na ddaeth erioed i ben na chalon dyn; ac ni ddarfu i neb erioed fyned atein Gwaredwr ar derfyn y gwasanaeth a dweyd ei fod wedi clywed y bregeth yna o'r blaen. Y mae yn cymeryd i fyny foesoldeb y gorphenol, ac yn ei chwblhau, y mae yn cyflwyno moesoldeb i'r presenol ac yn ei diogelu, y mae yn cynnwys moesoldeb y dyfodol, ac yn ei gwneud yn sicr. Ápêl ydyw, mewn gair, oddiwrth seremoniau a rheolau at ysbryd, ag at egwyddor. Y mae crefjdd bellach wedi ei symud oddiwrth y ddeddf at ryddid, oddi- wrth y gyfraith i'r galon. Nid yr hyn y bydd dyn yn ei wneud sydd yn penderfynu ei dynged yn ngolwg Duw, ond yr hyn ydyw dyn ynddo ef ei nunan. Cymeriad, ac nid cyflawniad bellach, sydd i gael ei gymeryd i ystyriaeth. Nid gofyn pa sawl gwaith y buom yn y capel yn ysbaid blwyddyn o amser y mae'r nefoedd, ond gofyn pa fath ddynion ydym ar derfyn ein cyfleusderau i gyd. Nid y ffaith ond yr effaith sydd yn bwysig. Nid edrych ar wychder ein haddoldai a'n heglwysi y mae Duw, ond edrych ar ysbryd ein haddoliad. Bellach rhaid cael Duw i'r ty cyn cael Ty i DduWi ac y mae Uawer bwthyn diaddurn y buasai "Inspector of Nuisances" yn ei anghymeradwyo yn lân, yn cael eigymeradwyo gan ein Tad, oblegid fod o'i fewn rai yn ei ofni ac yn ei wasanaethu. Nid am fod esgob wedi cysegru adeilad y mae yn Eglwys i'r Goruchaf, ond am fod y Goruchaf ei hunan wedi ei gysegru â'i bresenoldeb, "Wheiever God lets down the ladder, there we have a house of God;" ac er na ddylem ddiraddio Ty Dduw a'i wneud yn fasnachdy, eto fe ddylem ddyrchafu ein masnachdai a'u gwneud yn demlau i'r Arglwydd. Y mae yr un gwirionedd i'w weled yn nglŷn â'r Sabbath,—y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn gan Dduw, ac nid gan ddyn er mwyn Duw; ac felly, cyn y gallwn ni santeiddio y seithfed dydd, y mae yn rhaid i ni ein hunain fod yn santaidd ar y seitbfed dydd. Nid amlder geiriau ychwaith sydd i gyfansoddi gweddi, oblegid y mae y nefoedd yn ateb yr ochenaid lle y bydd calon heb iaith, ond yn gwrthod vr anerchiad lle y bydd iaith heb galon. Edrych ar gyflawniadau dyn y byddwn ni, ond edrych ar yr egwyddor fewnol y mae Duw. I'n tyb ni y mae dyn mewn siwt o frethyn du, a choler wen, a Beibl a Llyfr Emynau o dan ei fraich yn ddyn duwioJ; ond efallai fod dyn arall yn ei ddillad gwaith, heb na chôt na choler, a rhaw yn ei law yn sefyll yn uwch yn syniad Duw.