Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

176 S00*PÌ0!7> gydgyfarfyddiad o ddylanwadau y ddau symudiad mawr a roddodd agwedd newydd ar wyneb Ewrop, sef y defîroad llenyddol a'r ddiwygiad Protestan- aidd. Anhawdd gwybod pa un o'r ddau hyn ddylanwada fwyaf arno, h.y., §a un ai Uenyddiaeth Groeg a Rhufain ai y Beibl adawsant eu delw dyfnaf ar ei feddwl; Yn ei gymeriadau cawn gyfuniad o ddelfrydau y Beibl ac eiddo Groeg a Rhufain. Nid y w Crist Milton yn hollol yr un a Christ y Testament Newydd. Y mae wedi ychwanegu at briodoleddau Crist y Testament Newydd y syniad o wasanaeth cyhoeddus a geir yn llen- yddiaeth Groeg a Rhufain. Gellir dweyd yr un peth am Satan Coll Gwynfa. Y mae clasuron Groeg a Rhufain wedi eu dwyn dan deyrnged i gyfoethogi tudalenan Coll Gwynfa ac Adfeddiant Gwynfa. Y mae athroniaeth Stoicaidd hynafiaeth wedi gadael ei delw ar Milton befyd. Rywfodd nid ydym yn teimlo fod ei gymeriadau yn ddigon dynol. Maent yn brydferth ac aruchel, ond prydferthwch oer a phell ydyw. Nis gallwn deimlo eu bod yn gnawd o'n cDawd dì, ac yn esgyrn o'n hesgyrn ni, ac ni chlywn guriadau eu calonau yn cyd-gordio a churiadau ein calonau ni, fel ag y gwnawn gyda chreadiçaethau dramayddol Shakespeare. Cymerer, er enghrafft, ddarlnn Milton o Adda ac Efa yn ngardd Edeo. Maent yn brydferth, nis gallwn beidio eu hedmygu, ond nid yw yn bryd- ferthwch a enyna frwdfrjdedd a chydymdeimlad ynom. Eto, pan y gyrir Adda ac Efa allan o ardd paradwys, ni chyfyd ochenaid o'u mynwesau; cerddant allan fel hen droseddwyr wedi ymgaledu yn erbyn cosb, ac wedi dysgyblu eu meddwl i hunan-lywodraeth y stoic proffesedig. Fel bardd y mae Milton y mwyaf aruchel o'r holl feirdd Saesonig. a.c y mae testun ei gân anfarwol yn hollol gyfaddas i dynu allan ei ragoriaethau yn y cyfeiriad hwn. Y mae maes y frwydr ddesgrifia led-led a'r bydysawd, ac o ddyddordeb i'r holl fydysawd. Rhydd hyn gyfleusdra ardderchog i arucheledd dychymyg y bardd chwareu. Ystyrir nad oes yr un bardd hen na diweddar yu gallu llywodraethu arucheledd cynllun a dychymyg hedegog, a'u dwyn i'r fath gyfuniad hapus. Ac y mae yn feistr hollol ar y gelfyddyd farddcl. DeDgys y modd destlus y mae wedi cyfuno y fath elfenau gwas- garog ag a geir yn Ngholl Gwynfa, a'u gwneud yn un cyfangorff organaidd, pa mor fedrus yr oedd fel cynllunydd. A dengys miwsig a pherseinedd ei linellau pa mor fedrus yr oedd fel mydryddwr. ♦ ■•'» SCORPION. GAN MR. W. R. OWEN, LB'RPWL. IV. hAN fyddo gweinidog wedi cymeryd llwyr feddiant o serch ac ymddir- ied ei wrandawyr, mae ganddo fantais fawr i bregethu iddynt, oblegid mae beirniadaeth wedi ei difinio, a phob barn yn farn cariad; a thcmta8iwn i ddyn ieuanc o dan y fath amgylchiadau ydyw dibynu gormod ar gyfeillgarwch ei gynulleidfa, nes myn'd i deimlo na raid iddo ymboeni nemawr i barotoi ar gyfer y pulpud. Ond daliodd Mr, Roberts y brofedig- aeth hon heb ddangos dim o'i holion. Llafuriai yn galed i ddarparu pethau buddiol ac i chwilio am eiriau cymeradwy i'w traddodi i'r bobl, ac ni fu mewn un modd yn esgeulus o'i ddyledswyddau fel bugail. Heblaw yr Hen