Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SCORPION. 387 mae bywyd a phrydferthwch yn ffynu trwy holl natur yn mhresenoldeb goleuni, tra pe teyrnasai tywyllwch teyrnasai marwolaeth hefyd yn mhob man. Felly mewn ystyr ffigyrol ac ysbrydol, "Ohwiyw goleuni y byd." Mi faddeua y darllenydd i ni am syrthio i'r demtasiwn o sylwi ar un gymhariaeth arall y tuallan i'r testyn, "Cyn belled ag ydyw y dwyrain oddiwrth y gor- llewin y pellhaodd Efe ein camweddau oddiwrthym." Pa mor bell yw hyny? Mor wahanol fuasai pe byddai fel hyn—cyn belled ag ydyw y gogledd oddi- wrth y deheu, &c. Gellir mesur pellder y pegwn gogleddol oddiwrth yr un deheuol mewn milldiroedd. Nid ydyw yn bell iawn. Ond pe teithiem i'r dwyrain hyd nes yr amgylchynem y ddaear, ni ddelem byth i bwynt y gellir ei alw y dwyrain. Nid ydyw y dwyrain a'r gorlláwin yn ddim ond cyfeir- iadau, fel y mae'r ymadrodd yn gyfystr âg "annherfyno' bell," "Cyn belled ag ydy w y dwyrain oddiwrth y gorllewin y pellhaodd Efe ein camweddau oddiwrthym." A ydyw gwyddoniaeth yn ein hanalluogi i weled prydferth- wch a nerth yr ymadroddion hyn a'i peidio, barned y darllenydd. SCOÜPION . Ysgrif vi. GAN MR. W. R. OWEN, LIYERPOOL. JjjSJALLESlD dysgwyl mai un o effeithiau anocheladwy helynt " Ochen- Ym eidiau y Weinidogaeth," fuasai anghydfod yn yr Hen Gapel, Llan- nwchllyn, ac ymosod ffyrnig ar yr awdwr gan rai o'i bobl ei hun. Gwyddis am achosion lle y parodd gweithred gyfíelyb ar ran y gweinidog ymrafael a gelyniaeth wyllt yn ei eglwys; y gyrwyd yr aelodau yn benben a'u gilydd, y rhwygwyd y frawdoliaeth, ac y dinystriwyd cysur yr eglwys am flynyddau. Ond ni ddaeth un gofid o'r fath i ran Scorpion na'r eglwysi o dan ei ofal, yr hyn sydd yn ddiau i'w briodoli i natur y berthynas a fodolai rhyngddo a'r bobl. O'r ddwy ochr, yr oedd ymddiried llwyr yn ffynu. Gwyddent hwy bob un nad oedd dim o'r " Ocheneidiau i'w cymhwyso atynt, a gwyddai yntau fod ei swyddogion gartref uwchlaw amheuaeth o fod yn gyfranog o'r beiau y cwynai mor chwerw o'u herwydd. Yr oedd ei ymroad i'w ddyledswyddau, gonestrwydd ei awydd i wneud daioni, a: angerdd ei sêl dros iawnder ac urddas y weinidogaeth, yn gyfryw, fel yn rhinwedd eu hadnabyddiaeth hwy o hono, y credai pobî Llanuwchllyn fod pob cyhudd- iad o'i eiddo yn gywir, a phob gosodiad o'i eiddo yn seiliedig ar wirionedd. Mae yr heddwch a ffynai yn Llanuwchllyn ar y pryd, nid yn unig yn deyrnged uchel i gymeriad Scorpion, cnd yn mjned yn mhell i brofi dilys- rwydd ei amcanion, a chyfiawnder ei achos wrth gyhoeddi yr ysgrif. Gar- tref y mae i chwi farnu cymeriad dyn, ac yn arbenig cymeriad gweinidog. Mae aml i eglwys wedi dwyn trallod arni ei hun drwy ffurfio barn am wein- idogyn ol ei ymddygiad a'i ymddangosiad oddicartref; yn ei gylch gweini- dogaet.hol ei hun yr oedd llafur a bywyd Mr. Roberts y fath fel ag i feithrin yn meddyliau y bobl nid yn unig edmygedd uchel o'i alluoedd deallol, ond hoffder mawr o hono, yn yr olwg ar gysondeb a symlrwydd ei gyflawniadau cyhoeddus, a grym ei argyhoeddiadau. Yr oedd lluosogrwydd ei oruchwyl- ìon, ^q ararywiasth ei gyByUUftdftü rhyngddo «^r boU y.n peri fod ganddo