Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—886. lONAWli, 1S96. Cyf. Newydd—286. ATHRAWIAETH YR YMWAGHAD. * GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D., LLTJNDAIN. " Eithr Efe a'i dibrisiodd," neu yn hytrach a'i gimghaodd, "ei hun."—Phil. ii. 7. ìAE yr ymadrodd adnabyddus, ac eto tra dyrus hwn, i'w gael, fel y mae pawb o honoch yn ddiau yn cofio, yn nghanol paragraff pwysig lle mae Paul, mewn modd llednais, ond difrifol, yn taer gymhell y Philippiaid i feithrin ysbryd gostyngedig a hunan-ymwadol. Yr eglwys hon yn Philippi oedd yr oreu a'r fwyaf difrycheulyd ei chymeriad o'r holl eglwysi cyntefig. Hi, fel y byddai Hiraethog yn arfer dweyd, oedd yr eglwys gynlluniol (model churctì) yn mysg yr eglwysi apostolaidd. Nid oedd ynddi gyfeiliornad mewn barn, fel oedd yn eglwysi Galatia, na chyfeiliornad gwaradwyddus mewn buchedd ychwaith, fel oedd yn eglwys Corinth, i ofidio meddwl ac ysbryd yr apostol. Ac oherwydd hyny, nid yw yr apostol, yn y llythyr gwerthfawr hwn ati, yn achwyn nac yn beio ar ddim ynddi. Ond er mor ddymunol a boddhaol, ar y cyfan, oedd sefyllfa pethau yn eglwys Philippi, eto, yr oedd yno un cwmwl bychan ar ei ffurfafen ddysglaer; canys yr oedd yno dipyn o anghydwelediad rhwng rhyw ddwy wraig dda oeddynt yn aelodau defnyddiol a dylanwadol yn yr eglwys, Phil. iv. 2. Ac fel y mae tuedd mewn ychydig lefain i lefeinio yr hoîl does, felly y mae perygl i ychydig o anghydwelediad ac anghydfod rhwng nifer fechan o aelodau eglwysig, i ymledu a chynyddu nes cynyrchu ym- bleidio, a pheri niwed a gofid i'r eglwys i gyd. Ac oblegid hyny, y mae yr apostol mewn modd serchog a charedig, ac ar yr un pryd gyda'r dwysder mwyaf a'r anogaethau cryfaf, yn erfyn ar y ddwy chwaer gyfrifol a pharchus hyn yn eglwys Philippi, i ymdrechu dyfod i gyd-ddealltwriaeth â'u gilydd; ac y mae hefyd yn cymhell aelodau yr eglwys yn gyffredinol, i feithrin unfrydedd, a thangnefedd, a brawdgarwch, Ac mewn trefn i hyny, y mae yr apostol yn eu rhybuddio i ochelyd ysbryd balch a hunan-geisioJ, a phob tuedd i ymddyrchafu y naill uwchlaw y llall; ac y mae yn eu hanog, o'r tu arall, i fynwesu ysbryd gostyngedig a hunan-ymwadol, adn. 2—4:. Ac i ategu ei anogaeth i hunan-ymwadiad a gestyngeiddrwydd, y mae yn gosod gerbron eu meddyliau esiampl ddigyffelyb yr Argiwydd Iesu, gan ea cymhell i'w hefelychu: " Bydded ynoch y meddwl yma," meddai, " yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu," adn. 5. Meithrinwch yr un tueddfryd * Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Gweinidogion Cymreig Llundain, Hydref 14eg, 1895, ac a gyhoeddir ar gais unfrydol y frawdoliaeth. Ond teg yw hysbysu mai yr awdwr yn unig sydd yn gyfrifol am y syniadau sydd yn y papyr.