Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen GYF.-887. CHWEFROü, 1896. Cyf. NEWYDD.—287. ATHRAWIAETH YR YMWAGHAD. GAN Y PAROH. OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN. (íEithr Efp <-('/ dibriswdd," neu yn hytrach a'i gwaghaodd, "eihun."—Phil ii. 7. YSGRÍF II. II. FOD EIN HAlìGLWYDD WEDI GWAGIIAÜ EI HUN o'i HAWL-FREINTIAU ÜWYFOL, TRWV YMDDAIiOSTWNG I SEFYLLFA ISRADDOL. "Efe a'i díbîÌS- iodd neu a'i gwaghäodd ei hun, gan gymeryd arno agwedd giuas." ;AE yn deilwng o sylw mai nid " efe a'i gwaghäodd ei hun, ac a gymerodd arno agwedd gwas" a ddywedir, fel pe buasai gwaghau varvaL ei ÜUn? a chymeryd arno agwedd gwas, yn ddau beth gwahanol; ond " efe a'i gwaghäodd ei hun gan gymeryd arno agwedd gwas." Dyma esboniad yr apostol ei hun ar y modd y gwaghäodd ein Hargíwydd ei iiun. Yr un peth, gan hyny, yn ol eglurhad yr apostol, oedd gwaghau ei hun, a "chymeryd arno agwedd gwas." Nid gwas, ond Arglwydd a Brenin pawb a phobpeth, oedd tragwyddol Fab Duw yn ei sefyllfa rag- hanfodol. Ond fe ymwaghäodd o'r uwchafiaeth a'r awdurdod oruchel a chyffredinol a berthynai iddo yn naturiol, gan ymddarostwng yn wir- foddol i ddyfod yn was. Ac yn gyson â hyny, ní a'i cawn yn dweyd, ar ol gorphen ei waith mawr ar ein daear ni, fod "pob awdurdod yn y nef, ac ar y ddaear wedi ei rhoddi iddo," Mat. xxviii. 18; Ioan xvii. 2; yr hyn sydd yn rhagdybied ac yn arwyddo nad ocdd pob awdurdod gauddo yn ei gyflwr o ddarostyngiad, am ei fod wedi "cymeryd arno agwedd gwas" ac nid agwedd Brenin y pryd hwnw. Ond y fath ddarostyngiad rhyfedd oedd hyn! Pe meddylid ein bod }7n gofyn am ryw foneddwr cyfoethog, oedd wedi arfer preswylio mewn palas ardderchog, a chadw lluaws mawr o wasanaethyddion, Pa ie y mae y boneddwr oedd yn byw yn y fan a'r fan? A phe dywedid wrthym mewn atebiad, ei fod yn was yn y lle a'r lle, oni ryfeddem? Ond pa faint mwy o syndod yw med'dwl am "etifedd pob peth," wedi dyfod o "rrnrf Duw," i "agwedd gwas?;" a'r hwn a allasai fod ar orsedd y nef, ac yn cael ei wasanaethu gan angylion a seraphiaid, wedi ym- wregysu a chymeryd tywel, ac yn tywallt dwfr i'r cawg i olchi traed ei ddysgyblion: loan xiii. 4, 5! Mab Duw yn dyfod yn was er mwyn i ni gael bod yn frenhinoedd! Fel gwas yr oedd ganddo reol i ufuddhau iddi— gwaith i'w gyflawni—a gwobr i'w dysgwyl. Fel gwas, wele yr hwn oedd uwchlaw deddf, wedi dyfod dan y ddeddf; ac felly dyma un nad oedd arno rwymau i ufuddhau, yn ymostwng yn wirfoddol i ufuddhau, er mwyu gwneud iawn am ein hìnufudd-dod ni. Fel gwas y mae yn cymeryd