Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^m^G^^mT^ ^RhÎgFYrTiStT^ Cyf. Newydd. 309. FFYNONELLAU EFENGYL PAUL. GAN Y PARCH. D. M. JENRINS, LIYERPOOL. rr^AYNC ein hymholiad yn yr ysgrif hon fydd tarddiad hanesyddol jMjgj y dylanwad barodd i Paul roi ei ffurf arbenig i'w genadwri. 2aP»5 jsjjjj vn mha le y gallwn ni gael y wybodaeth oreu am ddysg- eidiaeth yr apostol hwn am Iesu Grist, ond o ba ffynonellau y cafodd ef ei hun ei oleuni. Myn rhai meddylwyr eithafol o'r ysgol hanesîol o esbonwyr, fod Cristionogaeth Paul a Christionogaeth Iesu yn ddwy gyfundrefn wahanol:—bod gwrthdarawiad anghymodlawn rhwng dysgeidiaeth y dysgyblion syml a dderbyniasant eu commisiwn o law Iesu ar y mynydd, a dysgeidiaeth y Pharisead uchelfrydig a drodd ei gefn mor anysgwyliadwy ar grefydd ei dadau wrth ymdaith tua Damascus. Ac y mae dosbarth lluosog o efengylwyr wedi dod i amlygrwydd yn ddiweddar sydd, er heb fyned mor bell a gosod Paul a'r Iesu yn hollol yn erbyn eu gilydd, eto yn mynu edrych ar Paul yn fwy fel duwinydd a meddyliwr annibynol, wedi ffurfio ei syniadau am Grist yn ngoleuni ei hen gylchyniant crefyddol Iuddewig, nag fel cyfrwng ysbrydoledig wedi ei alw gan Grist ei hun i roi datguddiad pellach o ystyr ddwyfol ei genadwri ef yn y cnawd. Ac oddiwrth y dosbarth olaf hwn, yn benaf, y daw'r waedd "yn ol at Grist" a glywir mor uchel yn y dyddiau hyn. f Yn awr, pe na buasai yr edrychiad yma tuag yn ol yn golygu dim mwy na dychwelyd oddiwrth y cyfundrefnau duwinyddol anmherffaith a ymffurfiasant yn meddyliau dynion anysbrydoledig at y Crist per- ffaith a digonol a bortreiadir ar dudalenau ysbrydoledig y Testament Newydd, ni buasem yn drwg-dybio y symudiad, nac yn meddwl y delsai dim ond bendith allan o hono. Ond pan y canfyddwn mai Paul a'i esboniad dwyfol ar ystyr cenadwri y Duw-ddyn ydyw gwrthrych penaf yr eiddigedd sy'n rhoi grym i'r waedd, yr ydym ar unwaith yn cael ein tafiu yn ol ar yr ymofyniad, Beth sydd yn yr Efengylau i alw am i ni droi ein cefnau ar yr Epistolau? Pa'm Matthew y publican anenwog a bychan ei athrylith, yn hytrach na Paul yr ysgolhaig a'r meddyliwr breninol? Pa'm Luc cydymaith Paular ei deithiau, yr hwn yr addefir ei fod wedi ysgrifenu dan ddylanwad Paul, yn hytrach na Paul ei hun oedd yn dylanwadu arno ? Ai am fod yr Efengylwyr, pan yn cofnodi eu hadgofion am hanes Iesu, yn nes i'r amgylchiadau nag yr oedd Paul pan yn ysgrifenu ei Epistolau, ac felly mewn gwell man- tais i'w cofio ? Na ! nid felly. Yr oedd Paul wedi ysgrifenu y rhan fwyaf o'i brif Epistolau o bump i ddeg mlynedd cyn i unrhyw un o'r Efengylau ddod i fod, Nid mewn llyfrau, eithr mewn traddodiad yn 2Q