Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Y PARCHEDIG DAVID MORGAN, LLANFYLLIN. Ysgrif VI. GAN Y PARCH. JOSIAH JONES, MACHYNLLETH. ^AN symudodd Mr. Morgan i Manchester yn unol â'r alwad a gfawsai gan eglwys Gartside street, yr oedd efe yn ymyl a bod ^^ò yn ddwy ar bymtheg a deugain mlwydd oed, ac felîy yr oedd ei gyneddfau ef eto yn gryfion, ei brofiad yn ddwfn, a'i gorff cadarn a golygus heb ddechreu anmharu. Ni feiddiasem ddweyd fel hyn am dano wedi gwaith mor galed, a thrallodion mor enbyd ag a gawsai efe, oni buasai ein bod yn gwybod ei fod yn ddyn anghyffredin mewn corff a meddwl. Nid rhyfedd, os oedd Mr. Morgan a'i ysbryd yn wrol, a'i ddysgwyliadau yn hyderus yn wyneb ei symudiad, er y dichon fod y cyfarfod ymadawol gweddîgar, a'r anerchiad cynhes a gawsai yn Machynlleth wedi cwrdd â llinynau tyneraf ei galon ar y pryd, fel ag i wneud ymadael oddiyno yn bur anhawdd; ac onid naturiol fuasai cy- meryd fod y teimladau caredig yn y cyfarfod ymadawol hwnw, fel cochni yr awyr yn yr hwyr naturiol, yn darogan tywydd teg—fod yr ystorm- ydd bellach wedi myned heibio iddo yntau. Ond er hyny nid felly y bu. Yn gyffelyb i Paul ar ei daith i Jerusalem, yr oedd " rhwymau a blinderau " yn ei aros eto. Yn anffodus, aeth ef i Manchester ar adeg ddigalon iawn, am fod cyfnod isel ar fasnach yn dechreu cymeryd lle ar y pryd. Trwy hyn bu raid i lawer o weithwyr ymadael â'r ddinas, er myned i rywle arall i ymofyn am waith, ac yn eu plith lawer o'r Cymry oeddynt yn arfer gwneud i fyny yr eglwysi a'r cynulleidfaoedd Cymreig. Lleihaodd hyn y gynulleidfa yn Gartside yn fawr, a gwnaeth hi yn ansefydlog iawn. Ni chymerodd dim neillduol le mewn cysyllt- iad a'i weinidogaeth i roddi calondid iddo tra fu yno. Er iddo dderbyn amryw i'r eglwys, eto oherwydd symudiadau, nid oedd yn lluosocach yn nifer yr aelodau pan yr ymadawodd oddiyno ar ben y tair blynedd, na phan yr aeth yno gyntaf. Tystiolaethai ei fod wedi gweled llawer o garedigrwydd a ffyddlondeb mewn llawer o'r aelodau yn y cyflawniad o'u dÿledswyddau gwahanol, a mwynhaodd fwynder a chariad oddiwrth y cyfeillion perthynol i'r eglwysi Seisonig yn y dref. " Ond rywfodd," medd efe, " nid oedd fy sefyllfa yno yn gyd- unol a'm chwaeth, yn un fanteisiol i'm hiechyd, nac i'm cynydd mewn crefydd, oblegid suddai fy ysbryd mewn rhyw iselder a digalondid yn barhaus tra fu'm yno." Ac nid rhyfedd ychwaith, canys yr oedd «i ft