Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—918. MEDI, 1898. " Cyf. Newydd—318. Y PARCHEDIG DAVID MORGAN, LLAN FYLLIN. Ysgrif VII GAN Y PARCH. JOSIAH JONES, MACHYNLLETH. YD yn hyn, yr ydym wedi bod yn edrych ar Mr. Morgan fel Dyn a Gweinidog yn benaf; ond yn awr, yn unol â chefn- ogaeth y Golygydd, ni a geisiwn edrych arno mewn cysylltiadau eraill; ac yn gyntaf oll yn ei Lafur Llenyddol. Gwelsom eisoes ei fod ef fel gweinidog wedi bod mewa "llafur a lludded;" ac o'r braidd na ddywedwn y gallasai yntau, yn debyg* i'r Apostol Paul, ddweyd am dano ei hun, yn gyferbyniol i'w frodyr yn y weinidogaeth, " Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll." A phe na fuasai efe wedi gwneud dim ond cyflawni dyledswyddau union- gyrchol y weinidogaeth, yn ngwyneb galwadau mor lluosogac amryw- iol ag oedd arno ef, ac yn neillduol felly gyda'r fath egni ac ymrodd- iad, buasai yn deilwng o barch ac anrhyddedd drwy yr holl eglwysi. Ond fel y gwelsom hefyd, heblaw iddo fod mewn "llafur a lludded," a diameu hefyd "mewn anhunedd yn fynych," gallasai ddweyd eto fel Paul, ddarfod iddo fod "mewn blinderau yn helaethach" na'r rhan fwyaf o'i frodyr; a sicr yw fod y blinderau hyn, sut bynag y mae cyfrif am danynt, wedi bod yn difa ei nerth, ac yn lladd ei ysbryd, yn llawer mwy na'r llafur a'r lludded eithafol y bu ynddynt. Ond hynod iawn, yn ychwanegol at hyn oll, bu efe yn ddigon gwrol i ymgymeryd â swm rhyfeddol o lafur llenyddol—digen i roddi enwogrydd ac anrhyd- edd arno, pe na buasai efe wedi gwneud dim mwy na chyfansoddi llyfrau drwy ei holl fywyd. Ond y mae dynion mawr, fel y mynydd- oedd uchel, yn ymddangos yn fawr sut bynag yr edrychir arnynt. Dywed Mr. Morgan mai y peth cyntaf a roddodd efe trwy y wasg oedd y dernyn byr a ddygai ei enw yn y Galwad Difrifol, gau y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair. Adnabyddid y llyfr hwn hefyd tan yr enw Y Llyfr Glas, a chynwysai lythyrau eraill oddiwrth y Parchedig-- ion W. Williams, Wern; R. Everett, Dinbych; J. Breeze, Liverpool; J. Griffiths, Tyddewi; a Michael Jones, Llanuwchllyn. Cyfrifid y rhai hyn fel colofnau yn yr Enwad Annibynol yr amser hwnw, ac yn neill- duol felly yn Ngogledd Cymru; a diau mai nid y lleiaf o honynt oedd Mr. Morgan. Cyhoeddwyd y llyfr hwn gyntafyn y flwyddyn 1820, a«s amcenid ef i ddysgu ac i daenu yn Nghymru eg-wyddorion a syn-