Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen Gyp.—919. HYDREF, 1898. Cyf. Newydd—319. Y GWEINIDOG YN NGOLEÜNI HAWLIAU AC ESIAMPL IESU GRIST.* GAN Y PARCH. W. PARI HUWS, B.D., DOLGELLAU. Anwyl Gyfeillion:— |AN ystyriaf yn mha gymeriad yr ydych wedi ymgynull yma heddyw—pregethwyr a gweinidogion yr efengyl; par i mi deimlo yn wylaidd iawn i feddwl eich anerch. .______ Anrhydedd pwysig i hauwr yw cael hau cae mawr, a hwnw o'r tir goreu; cyfle felly, ond ardderchocach fil o weithiau yw y cyfle i anerch cyfarfod fel hwn—dyna ddyffryndir ardderchog i hau ynddo yw meddwl, a chalon y byd; ie, meddwl a chalon yr eglwys yn wir; ac wrth hau mewn tir mor ragorol o ran posibil- rwydd, a diwylliant, gellir yn deg ddysgwyl cynhauaf gwerthfawr fel gwobr y llafur—nid amgen na chynhauaf o argyhoeddiadau a chymeriad. Fel y mae natur, a gwerth y tir i'w gymeryd i ystyriaeth wrth benderfynu pa had a hauir ynddo; felly hetyd y mae nodwedd foesol, a neges bywyd y rhai a anerchir genym i'w hystyried wrth benderfynu pa beth a dradoddir genym i'w clywedigaeth. Ac i bwy y mae neges uwch mewn bywyd; ac i bwy hefyd er eu holl wendidau, y mae nodweddion moesol rhagorach, na phregeth- wyr, a gweinidogion yr efengyl. Ac nis gallaf lai na diolch am yr anrhydedd o gael eich anerch yma heddyw; yr hyn a olyga eich bod yn rhoddi eich hunain dan fy ngweinidogaeth; yn debyg o ran egwyddor ag y dyry y maes ei nun i'r hauwr; iddo hau a fyno ynddo. Er y teimlwn yn anhawdd iawn i ddewis testun, ni theimlwn unrhyw anhawsder gyda'r amcan fyddai genyf; gan fy mod yn argyhoeddedig nad oedd genyf hawl i gynyg at amcan is na'ch llesoli, a'ch llesoli hefyd yn EICH CYSYLLTIADAU PWYSICAF, sef eich cysylltiadau gweinidogaethol. Felly nid fy amcan yn * Ad-drefniad yw yr ysgrif hon o ddau Anerchiad draddodwyd, y naill yn Re-ìuiion Coleg Bala-Bangor, a'r llall i Fyfyrwyr Coleg Caerfyrddin Er cyd- synio â'r ceisiadau o'r naill gýfeiriad a'r llall, ar iddynt gael eu cyhoeddi, gwneir un ysgrif o'r ddau fel hyn.—W. P. H. 2 B