Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. DR. PARKER A MRS. PARRER, O'R CITY TEMPLE. ^R ydym gyda'r rhifyn hwn yn anrhegu ein darllenwyr, fel y gwelir, â darlun o Dr. a Mrs. Parker. Mae Dr. joseph Parlcer yn ddiddadl yn un o gymeriadau hynotaf, ac yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd yr oes hon. Cyrhaeddodd ei jubili bregethwrol yn Mehefin diweddaf, a derbyniodd luaws mawr o longyfarchiadau calonog, oddiwrth ei frodyr yn y weinidogaeth ac erailí, ar yr achlysur dyddorol hwnw; ac yr ydym yn mawr obeithio yr arbedir ef i weled ei jubili weinìdogaethol eto yn 1903. Credwn y bydd ychydig o hanes y gwr enwog hwn yn dra derbyniol gan y rhal hyny o'n darllenwyr nad ydynt eisoes yn gyfarwydd â'i hanes. Fe'i ganwyd mewn tref dawel o'r enw Hexham, ar lan y Tyne, ar y çfed o Ebrill, 1830; ac fe welir felly ei fod bron a chyrhaedd ei naw mlwydd a thriugain oed. Pobl gyffredin o ran eu hamgylchiadau oedd ei rieni; ond yr oeddynt yn bobl grefyddol. Dywed y byddai ei fam yn arfer ei gymeryd yn fynych at ei glin i weddio drosto, pan ydoedd yn blentyn. Naddwr cerig (stone cutter) oedd ei dad wrth ei alwedigaeth, yn arfer gweithio yn galed ei hunan, a chadw hefyd ychydig o weithwyr dano. Yr ydoedd yn wr cadarn nerthol o ran corffolaeth, ac hefyd yn ddyn o nwydau a theimladau cryfion ac angerddol; ac yn un oedd a'i holl enaid yn casau ac yn ffieiddio pob twyll a ffug. Ac yn y gwahanol bethau \\yn y mae y mab yn dwyn llawer o ddelw ei dad. Y mae yntau yn gawr o ddyn cydnerth, gydag ysgwyddau llydain, a phen na welir ond yn anfynych iawu ei gyffelyb o ran maintioli. Ac y mae fel ei dad yn agored i gael ei gario ar brydiau i eithafion gan ei deimladau cryfion. Nis gall neb edrych arno heb deimlo fod yno lew o ddyn, oblegid y mae arwyddion o gryfdèr a dewrder meddyliol i'w gweíed yn amlwg yn argraffedig ar ëi wedd, ond fel y niae y rhai sydd yn ei adnabod oreu yn gwybod yn dda, y mae yno hefyd, yr un pryd, galon dyner a charedig o dan radd o lymder ymddangosiadol. Fe ddechreuodd bregethu pan yn ddeunaw mlwydd oed; ac mewn pwll llifio y traddododd ei bregeth gyntaf. Yr oedd cryn waith dringo o'r pwll llifio i bwlpud y City Temple, ond fe weithiodd Dr. Parker ei fFordd i fyny o'r fan hono i'r safle i.chel y mae ynddi yn bresenol, trwy ei alluoedd a'i ymroddiad ei hunan, ac heb ond ychydig mewn cymhar- iaeth o fanteision a chynorthwyon allanol. Derbyniodd dipyn o addys^ S"yffredin, yn ci ddyddmu ^oreMol, yn ysgolion ei dref ened»eroi|