Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hkn Gyf —927. MEHEFIN, 1899. Cyf. Newydd—327. RHAI O AMODAU LLWYDDIANT GWEINIDOG.—PENOD O GYFFESION. Parhad. GAN Y PARCH. D. ADAMS, B.A., LERPWL. 'RTH ddweyd fod yn rhaid i weinidog llwyddianus y dyfodol fedru cymhwyso Cristionogaeth at fywyd cymdeithasol ei wrandawyr, nid wyf am awgrymu y gellir esgeuluso myfyrio Duwinyddiaeth fel gwyddor. Fel y mae yn angenrheidiol i'r meddyg astudio anatomy a ỳhysiology a biology er mwyn gallu ỳrescribio yn briodol ar gyfer anhwylderau neillduol, felly hefyd y dylai gweinidog —meddyg anhwylderau moesol cymdeithas—ddeall duwinyddiaeth, meddyleg, a moeseg, yn ogystal a hanes, cyn y gall gymhwyso Crist- ionogaeth fel crefydd at angenion yr oes bresenol. Y mae cynulleid- faoedd yn myned yn fwy diamynedd o hyd i wrando yn dawel ar draethodau duwinyddol sychion yn ymdrin â pherthynas cyfiawnhad a sancteiddhad, pa un ai gweithred benarglwyddiaethol ydyw cyfiawnhad ynte a ydyw yn dibynu ar ffydd yn y credadyn, perthynas y ddwy natur yn íesu Grist, personoliaeth yr Ysbryd Glan, a'i ddylanwadau efîeithiol a chyffredinol, &c, &c. I lawer, ymddengys rhoddi y cywreinion cyfrin hyn iddynt yn debyg i roddi careg i newynog pan y mae yntau yn gofyn am fara. Y mae eisieu i'r efrydydd duwinyddol fod yn gyfarwydd â'r cwestiynau hyn a'u cyffelyb, ond nid doeth ynddo eu dwyn i amlygrwyddyn barhaus yn y pwlpud. Mae eisieu i'r meddyg wybod physiology yn dda, ond ni raid iddo, ac nid doeth ynddo fyddai rhoi araeth ar hyny i'r claf fel y peth pwysicaf. Y peth union- gyrchol sydd ar hwnw eisieu yw symud yr anhwylder, yna pwyntio y ffordd, drwy arferion gwahanol a rhagorach, a diet pwrpasol, i osgoi y drwg rhagllaw. Gwell i ni yn y pwlpud yw derbyn cynghor yr hen ddiacon hwnw yn Llanuwchllyn i Dr. George Lewis, yn hytrach na gwneud llyfr chwe' cheiniog ar ddyfodiad pechod i'r byd, ei wneud yn llyfr swllt, er dangos sut i'w yru allan o hono. Dyna ddylai fod cyfeiriad ein pregethau —sut i gael dynion yn rhydd o afaelion eu pechodau, sut i tyw yn well. Y mae ein gelynion yn edliw i ni ein other-worldliness. Ós oes ganddynt sail i'w hedliw- iaeth yn y gorphenol, rhaid i ni osgoi hyn yn y dyfodol os am wneud chware teg â Christionogaeth y Testament Newydd, ac enill y gwrth- wynebwyr eu hunain. GelUd tybied oddiwrth lawer o'r hen emynau