Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEUYDD. TYWALLTIAD YR VSBRYD GLAN MEWN CANLYNIAD I OGONEDDIAD YR IESU.—Ioan vn. 39.^ GAN Y PARCH. J. CHARLES, DINBYCH. IWY addewid fawr sydd yn y Beibl o'r dechreu i'r diwedd. "Had y wraig" oedd addewid fawr yr Hen Destament. Adnewyddwyd yr addewid hon i Abraham, a gelwid hi "Ei had," yn yr hwn y bendithid holl genedloedd y ddaear. Yr oedd cyfamod Duw âg Abraham yn sylfaenedig arni. Hon oedd sylfaen a chadernid cyfamod Duw â Moses, ac a'r Israel- iaid. Hon oedd yn nerth a chynaliaeth iddynt yn eu holl dreialon, eu gobaith a'u cysur yn eu holl gyfyngderau, a'r achos a'r rheswm o'u holl waredigaethau. Yr oedd holl ddaioni Duw iddynt ar hyd yr oesau yn seiliedig arni. Yr oedd fel gwythien aur yn rhedeg drwy ei holl hanes. Y Messiah addawedig oedd gogoniant yr Hen Oruch- wyliaeth. Ymddangosodd Iesu Grist mewn cnawd yn nghyflawn- der yr amser. Sylweddolodd yn llawn yr holl addewidion oedd wedi cerdded o'r blaen am dano. Bu fyw a marw, ac adgyfododd oddi- wrth y meirw yn ol yr Ysgrythyrau. Bu fyw unwaith, arhoddodd ei hun yn aberth unwaith dros bechodau yr holl fyd. Pe buasai yn byw mil o flynyddau, ac offrymu ei hun yn aberth dros bechod fll o weithiau, nis gallai wella dim ar ei waith, nac ychwanegu dim at ei werth anfeidrol. Mae Cristionogaeth fel Crist, yr un ddoe, hedd- yw, ac yn dragywydd. Felly hefyd y mae'r Iawn. Yr oedd gwaith Crist mewn un ystyr, yn gyflawn a pherffaith ynddo eihun; Efe yn unig a allai ddyweyd "Gorphenwyd." Ond mewn ystyr arall, nid oedd gwaith Crist ond dechreuad. Gosod y sylfaen i lawr a wnaeth Iesu. Efe ei hun yw'r sylfaen, ond cyn gadael y ddaear rhoddodd addewid o'r Ysbryd Glan, y Dyddanydd arall, yr hwn oedd i gario y gwaith yn mlaen i'w orpheniad, pryd y bydd holl lu y nef yn gwaeddi "Rhad, rhad iddo." Yr Ysbryd Glan yw addewid fawr y Testament Newydd. Yr oedd yn rhaid i'r Mab farw yn Iawn c> n tywallt yr Ysbryd Glan, a chyn y gellid pregethu yr efengyl i bob creadur. *Arerchiad a draddodwyd yn Nghyfarfod Blynyddol y Cynghrair Efengylaidd, yn Biyate, Hydref 31ain.