Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. ANGHYDFFURFIAETH A GOFYNION YR AMSEROEDD. GAN Y PAP.CH. B. DAVIES, TRELECH. i!fffO|TEBIAD ymarferol crefydd ysbrydol i ddymuniad dwfn ac itt«k\Pi angerddol cydwybod, oecld ang-hydtfurfiaeth arydechreu; twm^H ac er D°^ -yr amgylchiadau wedi newid, eto, yn hytrach na rTM# Tl gwanhau, cryfhâ ei dylanwad a sicrhâ ei gafael yn meddwl a chalon ein cenedl. Mae cyfnewidiadau yn amgylchiadau cymdeithas, yn peri ei bod o dan angenrheidrwydd i newid pethau. Mae angenion y byd mor fawr ac mor amrywiol, fel y mae pob peth sydd yn am- ddifad o allu i ymddadblygu yn rhwym o gael ei roddi o'r neilldu am ei fwy a'i gyfaddasach. Mae y plentyn yiYtyfu wrth ei fod yn treulio ei ddillad allan, ac felly gofynaam rai newyddion, am mai hwyt'a ellir wneud ynfwy. Gall y garddwr osod hedyn y blodeuyn mewn llestr i gychwyn tyfu a gwreiddio; ond yn fuan gofyna am ryddid; ac er na chaiff well daear; eto, cynydda yn gyflymach, fe wreiddia yn ddyfnach, ac fe dyf yn braffach mewn tir agored nag y gallasai wneud mewn llestr. Y mae llwyddiant pob ymdrech a wneir i gyfarfod âg angenion dyfn- ion meddwl dyn, yn dib}*nu ar a fydd y peth a gynygir i'r meddwl yn gyfaddas i'r angen y byddo y meddwl ynddo ar y pryd. Y mae pob peth sydd yn diwalìu angenion corff dyn, yn creu angenion newyddion, mwy a chryfach na'r angenion a ddiwallwyd, tra y byddo y corff yn cynyddu; aconid arwydd sicr o wywdra yw bod yr angenion yn myned yn llai? Y mae cyfansoddiad naturiol plentyn yn mynu mynegiant i'w angenion; ac y mae eu diwallu, yn foddion os nad yn amod cynydd yr angenion hyny. Nid yw hyn ond cysgod o wirionedd mwy. Y mae gan y meddwl ei angenion, angenion nad yw eiddo y corff yn deilwng i'w cystadlu â hwy; angenion y mae cyfryngau eu mynegiant yn llu- osog, yn gyffredinol, ac yn barhaus. Nid yw pob diwalliad ar yr angenion hyn, ond cyfrwng dadblygiad yr angenion eu hunain. Fel y mae y pren wrth gael ei ddyfrhau yn dyner, yn dyfod i waeddi am y gawod drom, a'r plentyn a arweinir â llaw, yn dyfod i redeg fel ewig, felly, y mae y meddwl yn troi pob ymdrech at ei ddiwallu, yn foddion cynydd amserol a thragwyddol. Mae y cynydd hwn yn cynyrchu cyf- newidiadau parhaus, a'r peth a fydd yn gyfaddas i gyfarfod â'r cyfryw gynydd, fe erys drwy bob cyfnewidiad allanol, o herwydd ei allu i ym- gyfaddasu i amgylchiadau gwahanol bywyd. Er fod Duw wedi cadw y dyfodol iddo ei hun, eto gall seryddwr hysbysu am ymddangosiad