Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDl) Hen Gyf.—9.34. AWST, 1900. Cyf. Newydd.—341. CYTCHOEDD GWAITH YR EGLWYS YN YR UGEINFED GANRIF> YDA eich hynawsedd, ymdrechaf eu gosod gerbron mor eglur a chynwysfawr ag y medraf, gan obeithio drw}T hyny gyffroi eich meddwl puraidd chwi i fwy gweithgar- wch. Ni ddisgwylir i mi forio fy llestr ysgafn, egwan, dros ddyfnderau mawrion y weilgi, eithr yn hytrach hwylio yn bleserus dros y basfor gloyw yn ngolwg y glanau. Gelwir ar Eglwys yr Ugeinfed Ganrif— I. I ddwyn yn mlaen y gwaith o efengyleiddio y Byd. Mae y gwaith cenadol yn sylfaenedig, nid ar orchmynyn pendant, eithr ar ysbrydoliaeth y groes. Mae pioneers y genadaeth o ddyddiau Crist a'r apostolion wedi eu tanio a brwdírydedd wrth y groes. Mae sefyllfa rhanau o Gymru yn bresenol yn gofyn i'r Enwad sefydlu cenadaeth gartrefol. Ceir dyeithriaid o Loegr yn croesi y goror i Fynwy, a rhanau gweithiol Morganwg, ac yn dwyn aríerion isel, di-dduw, gyda hwy, nes llygru cymdeithas. Mae llawer o bobl y goror yn esgeuluso moddion gras, er yn ei gael yn eu hiaith eu hunain; ac y mae eisiau mwy o haelioni gyda'r Genadaeth Dramor. Mae y gwaith gerir yn mlaen yn bresenol gan Gymdeithas Genadol Llundain yn costio o -£15,000 i /16,000 yn fwy na'r derbyniadau blynyddol. II. Dal allan wirionedd yr efengvl yn bur a dilwgr. Yr eglwys yw "Colofn a sylfaen y gwirionedd," ac y mae angen iddi alw allan eu hymadferthoedd i gyfarfod y gwrthddadleuon ddygir yn mlaen yn erbyn y gwirionedd yn mhob ffurf. Sylwai fod gelynion Cristionogaeth yn curo yn drwm ar y Beibl, yn neillduol yr Hen Destament, y blynyddau hyn, ac nad oedd y mwyaf iachus ei olygiadau yn dal ei fod heb fân wallau yn nglŷn âg ad-ysgrifenu, cyfìeithu, ac argraffu, yn gymaint ag nad oedd y rhai a wnaeth hyny o dan ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glan. Dywedai fod Bara y Bywyd yn berffaith iach ynddo, er fod ambell grutfaen o'r felin [*Anerchiad a draddodwyd 0 Gadair Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn Morthmadog, Gorph. 4ydd, 1900, gan y Parch. T. Johns, Llanolli. Gwyddem y buasai i Mr. Johns ddewis testyn amserol, ac y buasai ei drafodaeth yn ymarferol. Yr ydym gyda hyfrydwch yn cyflwyno y crynodeb dilynol o honi i ddarllenwyr y Dysgedydd.—Gol.] I A