Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HANESION. 403 yn ddigon agos. Meddyliais am gael myned drosodd yn ddystaw heb yn wybod i neb o'm cwmpas, ond fe'm siomwyd, dyma lle yr wyí etto." Y noson olaf y bu fyw, dywedodd, " Vr wyf ar y gàreg olaf yn awr, nn cam etto;" ao am un o'r gloch prydnawn dranoetb, estynodd y cam olaf, a chafodd ynddiogel y wlad sydd well. Y Mercher canlynol, hebryngwyd ei weddillion marwol gan dyrfa luosog i'rgladdfa, a chanwyd emyn ymadawol cyn gadael y bedd. Traddod- wyd pregeth anghladdol gan y Parcb. J. Jones, Amwythig, oddiar 1 Thes. ìt. 13, 14. Teimlir colled fawr ar ei ol am hir amser. " Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd."—R. J. Gorphenaf 24, Mr. T. Griffith, Pentre, Llan- fair, ar ol misoedd o gystudd caled, aeth i'r afon a'i bwys ar Graig yr oesoedd. Pregethwyd yn y tý cyn cychwyn y corff, gan y Parcb. T. Thomas. Yr oedd Mr. G. yn un o ragorolion y ddaear. Awst 13, yn 67 mlwydd oed, Mrs. Margaret Owen, priod Mr. Robert Owen, Masnachwr, Amlwcb. Yr oedd y chwaer hon yn hen aelod gyda'r Annibynwyr, yn un ddiwyd gyda moddion gras, yn bynaws a heddychol ei thuedd, yn ddy- fal a gofalus yn ei theulu. Bu yn dawel a dyoddefgar yn ei chystudd, a bufarw ft'i phwys ar ei Gwaredwr, mewn llawn obaith cadwedig- aeth.-W. J. 21, yn Plas Ruckley, amaethdy gerllaw capel y Wern, Mrs. Erans, priod Mr. Dayid Erans, o'r lle uchod, yn 65 mlwydd oed. Dyoddefodd gys- tudd trwm, a hyny yn dawel a dyoddefgar, am yr yspaid maith o bum mlynedd. Gyda phriod- oldeb y gellir dywedyd fod y tymmor hir hwn yn amser o orphwysdra iddi oddi ger bron yr Arglwydd. Yr oedd o'i mebyd yn ferch ieuanc ddymunol, serchog, a rhinweddol. Cafodd ddysgeidiaeth dda yn more ei hoes. Yr oedd o dyniher naturiol addfwyn, lonydd, a heddychlon. Cafodd hefyd y fraint o ymroddi yn fore i Dduw, a chydweithiodd y pethau hyn er ffurfio y cymeriad mwyaf dymunol, nes ei gwneud yn un a hoffid yn fawr gan bawb. Yr oedd yn briod ffyddlawn a serchog, yn fam dyner ac anwyl, ac yn ddiffuaut a sefydlog yn ei chyfeillgarwch. Dydd Mawrth, y 27, ymgynnullodd tyrfa luosog o gyfeillion a pherthynasau i dalu eu cymwynas olaf i'w gweddillion marwol, ac ymffurfiasant yn orymdaith drefnus, gan brudd ac araf ddilyn yr elorgerbyd i gladdfa capel y Wern, lle, yn mysg lluaws o'r hen gyfeillion, y dodwyd ei chorff i orwedd mewn gwir obaith am adgyfodiad i fwyn- bau gogoniant tragwyddol y nefoedd. Gwein- yddwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr acblysur yn y, tý, yn y capel, ac wrth y bedd, gan y Parch. W. Lloyd, gweinidog y 11«. " After my long travail sore, Sweet r«t seieed me erermore.— Gcntle woman, niny thy grure Peace and quiet erer ho»e." Awst 26, yn ei 81 ml. oed, Morris Daries, (Meurig Ebrill,) Dolgellau. Cafodd gystudd maith. Bu yn orweiddiog am flynyddau ; ond parhaodd yr awen yn fywiog drwy yr holl amser, a daliodd i awenu bron hyd y diwedd. Bu yn proffesu crefydd gyda yr Annibynwyr am 53 o flynyddau. Ymwelodd yr Argìwydd â'i feddwl mewn modd neillduol yn y Brithdir pan yn gwrando y diweddar Barch. W. Ilughes o'r Dinas ; ac yn mhen ychydig fisoedd, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys hòno gan y diw- eddar Barch. Uugh Pugh. Yr oedd efe yn mhlith yr ychydig a sylfaenasant yr Eglwys Annibynol yn Nolgellau, tua 52 ml. yn ol, a bu. yn golofn gadarn dan yr achos pan yn ei wendid. Pa fodd bynag, cafodd fyw i weled yr hedyn a daflwyd ganddynt i'r ddaear wedi dyfod yn bren mawr, a'i "ffrwyth yn ysgwyd fel Libanus," yr hyn a fu yn adloniant i'w feddwl ar lawer adeg isel a digalon mewn ystyriaetbau eraill. Yr oedd yr hen fardd yn Gristion egwyddorol, ac yn ym- neillduwr trwyadl. Bwriodd ei goelbren yn mhlith yr Annibynwyr, nid oddiar fympwy, ond am yr ystyriai eu trefn eglwysig yn nes i'r safon ysgrythyrol nag un arall; ac hefyd, am eu bod y pryd hwnw yn cynffoni llai i'r sefydliad gwladol nag unrhyw enwad arall. Coleddai syn- iadau uchel am hen seintiau Rhydymain a Llanuwchllyn cyn ei ymuniad à chrefydd, ac yr oedd eu barn hwy ar unrhyw bwnc yn oracl yn ei olwg. Casaai y grefydd dreisiol & chas cyf- lawn, a phlethodd aml i fflangell i'r Degwm a'r Dreth Eglwys a barodd i'w pleidwyr deimlo i'r byw, trwy yr hyn y tynodd arno ei hun wg am- ryw o lwyth Lefi. Ond efe a fu farw, "yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, ac a gasglwydat ei bobl." Gadawodd ar ei ol hiliogaeth luosog : bydded Duw eu tad yn Dduw iddynt hwythau oll. Nid ydoedd yr hen fardd heb ei wendidau, oblegid " nid oes neb cyfiawn ar y ddaear, a wna ddaioni ac ni phecha." Hyderwn y cymer y Parch. C. Jones, Dolgellau, y gorchwyl mewn llaw o gyf- ansoddi bywgraffiad iddo,oblegid gwyr ef ddigon am ei helyntiou yn ystod yr hanner canrif diw- eddaf i dynu ardeb cywir o hono. Gall ei hanea mewn cysylltiad ä sefydliad yr achos yn Nol- gellau fod yn ddyddorol ac addysgiadol.—D. O. HANESION CYFFEEDINOL. Dyttrywio labanod.—O'T marwolaethau a gy- merodd le yn y deyrnas hon yn 1859, nid oedd dim llai na 184,264—dau yn mhob pump o farw- olaethau y flwyddyn—yn blant dan bump oed; a phrin y cafodd haner y rhai byn—105,639— weled goleuni dydd, ac ni welsant byth en hail ddydd genedigaeth. Y mae llawer iawn o'r marwolaethau nyn yn cymeryd Ile o wendtd ao achosion a ddangoiant na ehafodd y plant fawr o obaith byw, ond y mae llawer yn cael eu