Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

94 EIN HATHROFAAU. iad dwyfol iddo. Y mae yr eglwys yn rhoddi parch dwyfol i Grist, ac yntau yn ei dder- byn gyda cbymeradwyaeth. Gyda bod ganddo gariad dwyfol tuag ati, y mae hefyd yn derbyn parch ac addoliad dwyfol ganddi. Yn hyn y mae, fel y Tad, yn hòni blaenoriaeth ar bawb a phob peth. "Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi; a'r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na niyfi, nid y w deilwng o honof fi." Nid oes neb yn deilwng ddysgybl i Grist os nad yw yn ei garu, ei barchu, a'i addoli fel Duw. Yr oedd yn gofyn ac yn derbyn addoliad dwyfol pan yma ar y ddaear. "Fel yr anrhydeddai pawb y Mab fel y maent yn anrhydeddu y Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tad yr hwn a'i hanfonodd ef." Y mae Crist yn caru ei eglwys fel Duw yn caru ei addolwyr, yn ymhyfrydu mewn bod yn Dduw iddynt am eu bod hwy yn bobl iddo, a'i hoffder ydyw gwrandaw arnynt am eu bod hwy yn galw arno fel eu Duw. IV. Y CASGLIAD YMARFEROL ODDIWRTH hyn. " Ymostwng dithau iddo ef." Efe ydyw llywodraethwr yr eglwys. Gan mai efe yw ei phriod, a'i fod yn briod brenhinol, rhaid mai efe sydd i'w llywodr- aethu. Ar ei ysgwydd ef y maeei llywodr- aeth, ac y mae yn ddigon uchel i gyrhaedd y llywodraeth, ac yn ddigon cryf i'w chynnal. Efe yn unig yw pen corffyr eg- Iwys, ac " Efe a deyrnasa mewn cyfiawder," ac "ar ei lywodraeth ni bydd diwedd." Y mae yn ddigon ei hunan i lywodraethu, heb eisieu i lywodraethwyr a brenhinoedd y ddaear ymyraeth dim. Nid yw bod y Pab yn ben yr eglwys yn Rhufain, a Victoria yn ben yr eglwys yn Lloegr, a phe llwyddai Ymerawdwr FfraÌDC i osod ei hun yn ben yr eglwys yno, yn un cymhorth i Grist lyw- odraethu ei briod. Y maent yn fwy o rwystr iddo nag o gymhorth. Gofyna iddynt, "Pwy ageisiodd hyn ar eich llaw, sefsengi fy nghynteddauî" * mae Hyw- odraeth eglwys Dduw yn rby gysegredig i law ddynol, pwy bynag fyddo. Y mae brenhinoedd i fod ynddi fel pechaduriaid calon ddrylliog ac ysbryd cy8tuddiedig, yn ostyngedig a hawdd eu trin, ac yn Uawn trugaredd a ffrwythau da. Yr un peth fyddai i ddynion hòni eu hunain yn ben ar ragluniaeth ag ydy w iddynt hòni eu hunain yn ben i'r eglwys. Ymae eisieu ufuddhau iddo. " Ymostwng dithau iddo ef." Sîon, gwrandaw ar gyfraith dyFrenin, acymostwng'iddoef. Ymostwng iddo ef o gariad ato. Ymostwng iddo ef fel yr awdurdod uchaf, "Rhaid yw ufudd- hau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Ym- ostwng iddo yn mhob peth a ddywedo wrthyt. Gan ei fod yn Frenin, ymae iddo awdurdod yn hawlio dy ufudd-dod. Ym- ostwng iddo ef, pa faint bynag raid i ti ddyoddef o herwydd hyny. "Ymostwngdî'íAau iddo ef." Pwy bynag wyt, cofia maî Crist ddylai gael dy lywodr- aethu. Yranghredadyn, "ymostwng dithau iddo ef." Ymostwng i deyrnasiad ei ras ar dy galon. Dyro dy arf'au gwrthryfelgar i lawr, a gad iddo ddyfod i mewn i deyrnasn yn dy galon. Wrandawwyr yn gyfFredinol, diorseddwch frenin y tywyllwch, a rhodd- wch yr orsedd i Frenin y gogoniant. Ym- ysgydwch oddiwrth iau haiarnaidd diafol a phechod, ac ufuddhewch i'r hwn sydd yn dywedyd, "Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf; canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon; a chwi a gewch or- phwysdra i'ch eneidiau." " Pobl a syrth- iant danat." Y rhai uíudd a syrthiant yn nydd gras, a'r rhai anufudd yn nydd digof- aint. Pa bryd y gwnewch chwi, wrandaw- wyr? Os syrthiwch i'r llwch dan awdurdod ei ras, chwi a ddyrchefir i ogoniant. " Yn awr y w'r amser cymeradwy, ac yn awr yw dydd yr iachawdwriaeth." Maentwrog. " , John Jones. EIN HATHROFAAU, Erthygl I. Hen erthygl yn ein credo enwadol yw yr angenrheidrwydd am addysg athrofaol i wŷr ieuainc, er eu cymhwyso "i waith y weinidogaefch." Bu yr Annibyuwyr yn