Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵwfjjíte. DOCTOR LEWIS," Wedi i'r Doctor amlygu yn y Bala ei gydsyniad â'r cais taer a wnaed ato gan ei frodyr yn y weinidogaeth, yn ngbydag eraill o wýr lleyg yr enwad, i aros yn ngwlad ei enedigaeth, anfonodd eglwys Llanuwchllyn ail alwad daer ac unfrydol iddo, i ddyfod atynt i'w llywodraethu yn yr Arglwydd. Yr ydym yn dywedyd ail alwad, o herwydd yr oeddynt wedi rhoddi galwad daer ac unfrydol iddoi'r un perwyl yn y flwyddyn flaenorol, â'r hon, o her- wydd ei benderfyniad diysgog ar y pryd i fyned drosodd i'r Anierica, yr oedd wedi gwrthod cydsynio. Ond wedi i Dr. Williaras o Rotherham, a Jenkin Lewis o Wrexbam, a Mr. Jones o Gaer, yn enw gweinidogion y Gogledd, a lluaws o rai o'r Deheudir, lẁyddo gydag ef i newid ei fwriad, derbyniodd yr alwad heb un petrusder, er mawr lawenydd i'r eglwys oedd wedi ei rhoddi, a gwrandawwyr y lle yn gyffredinol. Symudodd yno o Gaerynarfon yn nechreu mis Medi, yn y flwyddyn 1794. Pa un a oedd efe wedi bod yn y cymydogaethau byn o'r blaen, a phobl Llanuwchllyn ac yntau yn adnabyddus o'u gilydd, ni ddywedir wrtljym; ond y mae yn fwy na thebyg eu bod, o herwydd yr oedd y safle uchel a ennillodd iddo ei hun yn y weinidogaeth, yn ystod y deng mlynedd o'i aros- iad yn Nghaerynarfon, wedi tynu sylw cyhoeddus: a'r Ue, ar gyfrif ei ddysg a'i foneddigeiddrwydd, yr oedd wedi cau genau aml i gablwr, a thòri ewin- edd aml i erlidiwr a arferai flino pobl yr Arglwydd yn y cyflawniad o'u dyledswyddau. Yr oedd yr ynadon gormesol ag oedd wedi bod cyhyd mor elynol i ryddid ac i ymneillduaeth, gan eu hystyried yn ddau air cyfystyr, yn deimladwy eu bod wedi cyfarfod â'u meistr, ac nad oedd wiw iddynt chwareu eu hystrywiau yn ol eu hewyllys fel cynt. Pan hwtid y pregethwr tlodaidd a anturiai atynt am drwydded i bregethu, nid oedd raid iddo ond crybwyll enw Mr. Lewis na byddai y don yn newid, a'i ddymuniad yn cael ei ganiatâu. Ond dylid cofio mai o'r dosbarth Ysweiniol mwyaf rhagfarn- Ilyd, a'r dosbarth offeiriadol mwyaf dwl, yr oedd yr ynadon y pryd hwnw, fel yn awr, yn cael eu gwneud i fyny, y rhai na wyddent ddim am natur y gyfraith yr oeddynt yn ei gweinyddu, nac am iawnderau y dynion a ddeuent ger eu bron. Ac nid oes un fainc yn y deyrnas, ond odid, yn cael ei diraddio yn fwy gan anghymhwysder y rhai a eisteddant arni na'r fainc ynadol. Y mae yn llawn bryd eu bysgubo ymaith, un at ei bader a'r llall at ei gwn, ac i swyddog cyfrifol, yn deall ei waith, gael ei osod arni yn eu lle. Y mae yn ddychrynllyd fod mater rhwng gwr a gwr—mater rhyddid, a mater cymeriad, yn parhau i gael ei adael at farn dynion na chymerai neb yn y wlad eu barn ar un mater ag y byddai y canlyniad lleiaf arno yn troi! Aeth Dr. Lewis at un o'r tylwyth hyn unwaith yn Mangor gyda dyn oedd eisieu trwydded i bregethu; ac wedi i'r llw gael ei roddi, a'r drwydded gael ei derbyn, dywedai y Dr. wrtbo wedi myned allan, " Wel, yr ydycb yn eithaf cymhwys yn awr i droi eich llaw at y peth a fynoch, yr ydych * Gwe! j DrsaiDTOD im 1856, tudal. 455. Tfynir.r, 1863. q