Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵwtjjota. DE, LEWIS,' Y mae yn ddiau nad oes un dyn wedi bod yn fwy o addurn i'r Annibynwyr yn Nghymru, yn yr oes ddiweddaf, na Dr. Lewis; na neb ag y maení, fel plaid, dan fwy o rwymau i'w goffadwriaeth. Mae ei gymeriad ucheí fel ysgolhaig a boneddwr wedi rhoddì arnynt enwogrwydd ac urddas ag sydd yn rhoddi achos cyfiawn iddynt i ymffrostio ynddo, cyn belled ag y mae ymffrost mewn dyn yn weddus a phriodol i'w wneud. Yr ydoedd ei sefyllfa anrhydeddus fel gweinidog ac athraw yn peri iddo gael edrych arno fel prif ddyn ei oes, â barn yr hwn yr ymgynghorid bob amser mewn pob symudiad o bwys, neu ryw achos o gyfyngder. Ac nid anaml y byddai y cyfryw amgylchiad yn yr oes hòno heb gymeryd lle. Yr oedd ymneilldu- aeth y pryd hwnw heb gyflawn sefydlu ei chymeriad, ac heb ei deall yn ei hegwyddorion gan grachfoneddwyr y wlad. Nid oedd ond tra ieuanc mewn degau o ardaloedd, tra mewn degau eraill yr oedd ei sail heb ei gosod i lawr. Nid oedd nifer ei harddelwyr yn aml ond ychydig, a'r ychydig hyny yn bobl lonydd a diniwaid, yn goddef pob gorthrwm a chamdriniaeth oddiar ddwylaw uchelwyr ac ysweiniaid ag oedd yn tybio fod blino yr ym- neiliduwyr yn iawn am feddwdod ac anlladrwydd, ac yn sicrhau derbyniad helaethach iddynt i mewn i deyrnas nef. Yn y fath amser ag yr ydoedd yr ymneillduwyr at drugaredd dynion heb feddu trngaredd, ac yn ddarostyng- edig i bob traha a difrîaeth oddiwrthynt, yr oedd gwr eang ei wybodaeth, ac adnabyddus o'r gyfraith, fel Dr. Lewis, iddynt yn aml megys ymguddfa rhag y gwynt, a lloches rhag y dymhestí, a chysgod craig fawr mewn tir sychedig. Ac hebiaw hyn oll, nid ydym yn gwybod am un sydd wedi cyfoethogi llenyddiaeth grefyddol ein gwlad â'r fath gyfrolau mor werth- fawr, wedi eu hysgrifenu mor syml a naturiol; nac am un sydd wedi cario dylanwad helaethach ar ein duwinyddiaeth a'n gwybodaeth grefyddol fel enwad. Am rîeni Dr. Lewis, William a Rachel Lewis, nid ydym yn gwybod ond ychydig, heblaw eu bod yn ffarmwyr parchus a defosiynol, ac yn arfer myned i'r Eglwys Wladol yn gyson a rheolaidd. Ymddengys fod ei fam yn ddynes o ysbryd mwy crefyddol na'r cyffredin, ac yn ystyried ei hun yn mhob ystyr yn aelod proffesedig yn y Llan, mor bell ag y mae yn bosibl i'r naill fod yn fwy o aelod proffesedig na'r llall mewn eglwys nad oes ganddi neb yn Grist ond y senedd, na neb yn aelodau ond y wladwriaeth. Gyda golwg ar amser a lle genedigaeth y Doctor, y mae rhyw ychydig o ddyryswch yn aros. Dywed un hanes iddo gael ei eni yn y Fantais, plwyf Trelech, yn y flwyddyn 1760; a'r hanes arall iddo gael ei eni mewn man a elwir y Coed, yn agos i Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1763. Yn awdurdod dros y cyntaf y mae y Parch. David Peters, Caerfyrddin; a thros yr ail, y Parch. Edward Davies, M.A., mab-yn-nghyfraith y Doctor. Nid yw y gwahaniaeth hwn, wrth ei fod mor ychydig o ran lle ac ainser, • Rboddasom yr yagrií bon i fewn, yr bon y cyfeiriwyd ati yn y Rhif. am Ebrill, ar ddymuniad Uaweroedd. GOBTHENAF, 1863. 2 H