Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. CHWEFROE, 1844. ADGOFION EDWARD JONES 0 FOSTYN, PARHAD O TUDALEN 3. Yr oedd Edward Jones yn ŵr o synwyr naturiol cryf. Meddiannai alluoedd i amgyffred pethau, i graffu ar amgylchiadau, ac i weithredu yn ddoeth fel Cristion ac fel swyddog eglwysig. Nid oedd ganddo ddon- iau llithrig i draethu ei syniadau. Siaradwr hwyrdrwm ac anfedrus ydoedd, ond siaradai bob amser yn briodol ar y mater o dan ystyriaeth. Nid dylanwad dawn a feddiannid ganddo, eithr dylanwad rhinwedd. Ni ellir dywedyd fod cylch ei wy- bodaeth yn eang iawn, na bod ei chwaeth feirniadol bob amser yn un mwyaf cywir. Pwy ddysgwyliai y cyfryw beth oddiwrth un o'i am- gylchiadau a'i fanteision? Ond yr oedd ganddo wybodaeth helaethach na'r cýffredin o grefyddwyr, a chwaeth feirniadol burach nag a feddiennir gan lawer y gallesid dys- gwyl iddynt ragori. Oedd bob amser yn awyddus i gynnyddu mewn gwybodaeth. Nid oedd yn tybied ei fodwedi gwybod digon,nac yn ofni gwybod gormod o bethau ysbrydol. Meddiannai olygiadau ar wahanol bynciau crefydd, ac yr oedd ganddo ei resymau dros ei olygiadau; ond ymgadwai bob am- ser mewn ysbryd parod i gymeryd ei argyhoeddi. Pwyll a hunanfeddiant oeddynt hefyd yn hynodion ei nodwedd. Dygwyddodd iddo fod lawer tro mewn amgylchiadau profedigaethus i galon lygredig ymollwng i dymher anweddaidd ac arfer iaith anwedd- aiddj ond meddiannai ei ysbryd mewn amynedd, a llywodraethai yn ofalus yr "aelod bychan" sydd mor dueddol i "ffrostio pethaumawrion." Perthynai iddo fwynder a serch- ogedd mawr. Oedd golwg serchus arno fel dyn, a chyfatebai ei ysbryd yn gyflawn i'w olwg. Pleidiai cgwyddorion da ac ym- arferiadau teilwng yn ffyddlawn a diysgog. Oedd yn ŵr cydwybodol yn ei holl ffyrdd, a gweithredai ei gydwybod o dan reolaeth deall goleuedig a barn bwyllog. Nid oedd yn ŵr o deimladau cyffröus. Anfynych y gwelwyd arwydd arno fod ei dymher yn cael ei phoethi. Ond er hyny gwyddai pawb a'i hadwaenai ei fod yn ŵr o deimlad dwys a sefydlog. Gwrandawai y weinidogaeth bob amser gyda dyfal- wch, a dangosai sirioldeb ei wedd fod ei enaid yn gwledda. Oedd yn Ymneillduwr egwyddorol. Medd- iannai syniadau cywir am natur teyrnas Crist, ac ni phetrusai arddel y syniadau hyny a'u hamdiffyn pan y byddai achos yn galw. Nid un gwan, anwadal, a sigledig ydoedd yn ei ffydd, ei broffes na'i ymarfer- iad Cristionogol. Oedd ganddo ysbryd eang a haelrydd tuag at ddosbeirth eraill o Gristionogion. Nid meddwl bychan i edrych yn gilwgus a chuchiog ar eraill oedd ganddo, ond calon fawr i gynnwys holl saint Duw o'i mewn. Er hyny ni anghofiai ac ni fradychai yr eg- wyddorion a gredid ganddo. Nid ffurf arwynebol oedd ei gariad, ond teimlad egwyddorol ei galon.