Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. AWST, 1844 COFIANT EOBEET EOBEETS O'E CUTIAU, GERLLAW ABERMAW. Mab hynaf oedd gwrthddrych y Cofiant hwn i Robert ac Ann Roberts, Tir mab Cynan, yn gyfagos i Ddolgellau. Pan oedd efe yn fachgen, bu mewn ysgol am ddwy flynedd yn y dref uchod. Ni chafodd nemawr ychwaneg o fanteision dysgeidiaeth ar ol hyny. Arhosodd yn ngwasanaeth ei r'ieni, y rhai a drinient dyddyn o dir, ac a fasnachent mewn gwlaneni, nes cyrhaeddodd ei dair ar hugain oed. Yr oedd y Trefnyddion Calfinaidd y pryd hwnw yn arfer pregethu yn ei gymydogaeth ef, mewn lle a elwid Pant- y-cra. Teimlai yntau awydd i fyned yno i wrandaw beth oedd gan y bobl i'w ddy- ẃedyd. Galwai heibio i un o'i gym- deithion (sef wedi hyny, tad y diweddar Barch. H. Pugh o'r Brithdir,) i fyned gydag ef; ac ar eu mynediad tua'r lle addoliad, wele'r bobl yndychwelyd oddi- yno yn ddychrynedig; canys y militia a ddaethent yno o Ddolgellau yn fwriadol i aflonyddu yr addolwyr, y rhai hefyd yn eu gwawd a'u cenfigen a ddidoisant ryw gymaint o'r tŷ. Yn fuan ar ol hyn, ymbriododd R. Roberts ag Elisabeth, merch John Ed- mund, Tyddynygareg, o'r un gymydog- aeth ag ef. YmbriodaSant ar ddydd Sadwrn. Boreu y Sabbath canlynol, dywedai ei wraig wrtho, "Robert, a ddewch chwi gyda mi heddyw i Bant-y- cra, i wrandaw ar Ddafydd Edward o'r Bala yn pregethu?" Dywedai yntau wrthi, " Deuaf." A hwy a aethant yno ìll dau: ac efe a dystiai ar ol hyny i'r gwirionedd ddeffroi ei gydwybod, ac effeithio yn dra dwys ar ei feddwl. Y pechod yr argyhoeddid ef o hono yn benaf oedd halogiad y Sabbath; canys yr oedd efe yn un o'r rhai blaenaf yn y drygioni hwnw. Parhaodd i fyned i'r oedfaon boreuau Sabbathau a gynnelid yn y lle crybwylledig am ddwy flynedd, ac etto heb ymuno yn eglwysig â'r enwad uchod, nac ag un blaid grefyddol arall. Yn ysbaid y blynyddoedd hyn, arferai ef a dau eraill o'i gyfoedion, yn ol eu gallu, brynu pob llyfrau da a welent, ac ym- gyfarfod ar y Sabbathau i'w darllen, a hyny fynychaf yn nghonglau y meusydd, lle y caffent lonyddwch oddiwrth eu cymydogion gwatwarus. Yn niwedd yr ysbaid hwn, efe a'i wraig a symudasant i fyw i le arall yn y gymydogaeth, a elwid Henblas. Y pryd hwn daeth yr Anni- bynwyr i bregethu i annedd gerllaw ei gartref newydd, yr hyn a barodd iddo lawenydd nid bychan. Yr enwog Mr. Tibbot o Lanuwchllyn oedd y cyntaf o'r enwad uchod a glybu efe yn pregethu yno, yr hwn, o herwydd lluosogrwydd ei wrandawyr, a osodid dan yr angenrheid- rwydd i bregethu allan. Parhaodd efe a'i wraig i fyned yno i wrandaw am ddwy flynedd, ac yn niwedd hyny, teimlai awydd i fyned i'r gyfeillach eglwysig. Dangosodd ei wraig radd o anfoddlon- rwydd iddo ef fyned; ond fodd bynag, myned a wnaeth Robert, ac ymwasguâ'r ychydig ddysgyblion i Grist a ymgyfar- fyddent i addoli yn Rhydymain; canys nid oedd cymdeithas eglwysig wedi ei chorffori y pryd hyny yn y Brithdir. Wedi ei ddyfod ef adref, efe a ganmolai ei Ie newydd yn fawr iawn wrth ei wraig, a dywedai yn siriol a difrifol nad oedd un man dan y nefoedd tebyg i dý Dduw. Yn mhen ychydig o wythnosau, er ei fawr syndod a'i Iawenydd, amlygodd hithau ei phenderfyniad i gydymwasgu ag ef a phobl Dduw, ac i gydymgartrefu yn eu plith. Yn fuan ar ol hyn, ffurf- iwyd cymdeithas eglwysig yn y Brithdir, yn yr hon yr oedd wyth o rifedi, sef Shiôn Ellis; Mari Puw o'rPerthillwydion; R. Roberts; Shiôn Jones o'r Gorwyr, a 2 F