Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. RHA GFYR, 1845, ÜOFIANT DWY CHWAEB GREFYDDOL. Mawryger Crist, %m un bynag ai trwy fy mywyd, ai trwyfy marwolaeth, ydyw iaithcalon, ac amcan pob gwir Gristion, i ryw raddau, yn mhob oes. Y mae Duw, yr hwn sydd ryfedd yn ei waith, yn gadael i rai o'i blant aros yn y bycí hwn cyhyd ag y byddai yn ddymunol iddynt fyw yn y fuchedd hon, hyd onid yw natur ei hun yn myned yn faich, a'u bod wedi colli eu harchwaeth at yr oll a welir yma ar y ddaear; pan y mae yn cymeryd eraill ymaith yn more eu byw- yd, megys blodau cyn braidd iddynt gael ymagor, na thaenu dim o'u peraroglau. Y blaenaf sydd wedi cael adeg led hir i i'awrygu Crist, er llesàd i'w cyd-ddynion yn eu bywyd, trwy iddynt ymddysgleirio niegys goleuadau yn y byd, yn nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus ; pan y mae y ileill wedi cael ond byr amser i gyrhaedd eu hamcan o fawrygu Crist yn eu bywyd. Gan hyny, dwyn marwol- aeth y cyfryw mewn rhyw fesur i wasanr aethu yr amcan hwn a olygir wrth ys- grifenu y llinellau canlynol, er coffad- wriaeth am ddwy o anwylion y nef a yollwyd o eglwys Llanfylün yn eu hieu- enctyd o fewn i'r flwyddyn hon. Y gyntaf a goffeir ydoedd Jane Syd- \ey, merch hynaf y diweddar Mr. Jones, üarcer, Llanfyllin, a fu farw ar y 6ed o Ebrill diweddaf, yn 14 mlwydd oed. Yr oedd yn ferch o ddeall cryf, ac o deiml- adau bywiog, a thueddwyd hi i feddwl ac ymofyn am grefydd fel y peth penaf er yn fore iawn. Derbyniwyd hi yn aelod o'r Eglwys Gynnulleidfaol ar y 25 o Chwefror, 1844. Cafwyd yr ysgrif ganlynol yn ei dyddlyfr ar ol ei marwol- aeth, wedi ei hysgrifenu â'i llaw ei hun pan y derbyniwyd hi:— " Y dydd hwn cefais y fraint o gael fy nerbyn, yn ngbyda Miss Mari'a a Jane Tibbot, i gymundeb eglwysig gyda phobl Dduw. O Arglwydd, bydded i mi gael nerth > barhau yn ffyddlawn hyd y diwedd. Dy ras di, O fy \had uefol, sy'n ddigonol i mi wneuthur í'elly: bydded i ti, gnn hyny, fy nghymhorth yn awr y brofedigaeth. Yn ■nbob rhyw amgylchiad, a pìiob rhyw drallod a'm cyfer* fydd yn y byd, bydded i ti, O Arglwydd, fod yngymhorth hawdd dy gael i mi, a rho i mi fwynhau yn ty enaid y tangnefedd hwnw sydd uwchlaw pob deall, gan fod yn fynych fynych mewn cymdeithas ft'in Duw. A bydded i bob rhyw drallod a'm cyferfydd ddwyn fy nghalon yn nes nes atat ti yn barhaus. Amen.—Nos Wener ddiweddaf, lian yn cael ein derbyn, dywedai ein parchus weinidog '.Yrthym yu ddifrifol iawn ain i ni wylied rhag y byd, y :nawd, a diafol: chwont y cnawd, chwant y llygad, a lalchder y bywyd. Bydded i mi, gan liyny, yn nghymhorth y nef, ymgudw rhagddynt." Mewn lle arall, ysgrifenai ehediadau ei meddwl myfyriol fel y canlyn :— "Dyma un dydd Sabbath aral) wedi gwawrio arnom. Pn ddefnydd ydwyf wedi wneuthur o fy amser gwerthfawrl Dichon mai hwn ydyw y Sabbath diweddaf i mi ar y ddaear. Rhaid i ni roddi cyfrif am bob mynyd o'r amser ydym yn fwynhau; ac am bob gair segur a ddywedo ílynion y rhoädant gyfrif yn y farn. Y mae y byd yn myned ar i waered mewn pob drygioni, a miloedd ar riì- oedd yn myned ar hyd y ffordd lydan i ddinystr eu gwenh- fawr eneidiau! 0 Arglwydd, ti wyt Dduw trugarc^- ... graslawn, a hwyrfrydig i lid, pa hyd y goddefi y tath ddrygau i barhau? Bydded i ti amlygu dy hun gyda dy weision anfonedig heddyw, trwy droi lîawer o dywyll-v-ru i wiroleuni yrefengyl.—J. S. Jones. IMedi, 1844." Oddiwrth y pethau hyn, y mae yn hawdd gweled, ac i ni ystyried ei hoed- ran, ei bod yn ferch ddeallus, o olygiadau cywir a helaeth, ac o deimladau ystyrioi am bethau pwysig crefydd, pan yu dyfod i ymwneud â hwy. Yr oedcl yn un o'r merched prydferthaf ei gwedd, hoffus ei thymherau, syml a gwylaidd ei hymarweddiad yn gyffredinol, ac mewn iechyd da hyd o fewn ychydig amser i'w marwolaeth. Yn ei bywyd, yr oedd yn lled anaml ei geiriau ; felly yn ei ehy^- tudd, ni ddywedai ond ychydig, ond dangosai y sirioldeb a'r tawelwch mwyaí, er ei bod yn ymwybodol ei bod yn daù feilio yn gyflym. Dywedodd unwaith wrth ysgrifenydd y llinellau hyn, pan y gofynodd iddi pa fodd yr oedd ar ei meddwl yn wyneb ei chystudd trwm,— ((Yr wyf yn dawel ac yn esmwyth iawn," ebe hi, " nid oes genyf neb ond Iesu am fy mywyd a'm cymeradwyaeth gyda Duw." Geiriau i'r un perwyl a ddywedai yn fynych wrth ei mam anwyl a thyner a'i gwyliai ddydd a nos, oddiwrth yr hon y chweunychai gadw ei theimladau cys- tuddiolrhag dolurio ei meddwl yn wyneb ei hamgylchiadau galarus, pan wedi claddu ei phriod anwyl er's ychydig o fisoedd yn ol. Galwodd am ei chwiory :I-;l un o'i dyddiau diweddaf, a rhybuddiodd hwynt yn y modd mwyaf difrifol a serchog i feddwl ac ymofyn am wir grefydd mewn pryd, am nad oedd un peth yn y byd yn werth eu serch a'u calonau ond hyn yn unig; a gobeithir y bydd i hyn gael ei briodol argraff arnynt. Felly terfynodd ei byr daith yn yr an- ialwch. Yr ail sydd yn destun ein sylw ydyw Anne Elizabeth, merch hynaf Mr. Tibbot, Llanfyllin, yr hon a hunodd Awst 13, 1845, yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg o'i hoedran. Derbyniwyd hi yn aelod o'r Eglwys pan nad oedd ond cleuddeg mlwydd oed; ac ar y dydd hwnw ysgrifenodd ù'i llaw yn ei dyddlyfr fel y canlyn :— "Medi 10, 1841, y derbyniwyd ti vn aelod ü Eglwyn Annibynol Pendref, Llan'fyllin. Y'Sabbath canlynol. 2 Y