Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. M E D I, 1852. DERBYNIAD AELODAU EGLWYSIG, CAN Y GOLYCYDD. Nid oes dim yn fwy cysurus yn ein hymdriniaeth â holl waith y cysegr na bod yn y goleuni; ac fel y mae derbyn- iad aelodau i gyflawn gymundeb eglwys Dduw, neu attal rhai oddiwrth y fraint, yn ymddangos o'r pwys mwyaf, ym- drechwn, hyd y mae ynom, rwyddhau ffordd eglwysi Crist pan eu galwer at y gorchwyl pwysig hwn. Mynych y mae yr eglwysi wedi teimlo aughysur meddwl yn byn, rhag eu bod yn gwneud yr hyn na byddai yr Arglwydd yn foddlon iddo, gan hyny gelwir sylw yr eglwysi at y pethau canlynol, gan obeithio y byddant o gynnorthwy iddynt yn yr achos hwn. I. YSTYRIWCH MAI CYMDEITHAS YDYW EGLWYS DüUW WEDI YMGORFFOLI I DDYBENION NEILLDUOL. 1. Mae y gymdeithas hon yn cynnwys amryw aelodau, 1 Cor. 12. 14, 20. Y maent yn lluosog iawn mewn rhai manau, ond mewn rhai manau eraill yn ycbydig; etto y mae Pen mawr yr eglwys yn aros yn eu plitb, ac yn eu harddel, Math. 18. 20. 2. Nad yw y gymdeithas hon wedi ymgorffoli i ddwyn yn mlaen unrhyw fasnach fydol. Nid yw teyrnas na brenhiniaeth Iesu o'r byd hwn. "Nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod, ond cyfiawnder, tangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glan j" a chan fod yr efengyl yn golygu pethau ysbrydol, mwy eu pwys na dim perthynol i'r byd hwn, felly hefyd y gweddai i'w holl broffeswyr olygu. 3. Mai nn o ddybenion uniongyrchol y Gymdeithas ydyw sefydlu a chynnal crefydd neu achos Crist yn ei wahanol ranau yn y byd: hyn oedd ymgais yr apostolion, hyd y gallent, yn yr boll fanau yr aent iddynt, 1 Cor. 3. 6—8. Buont yn ddiwyd ac ymdrechgar iawn i sefydlu cymdeithasau crefyddol er dwyn yn mlaen waith mawr yr Arglwydd yn wyneb pob anhawsderau, yn nghyda cbyfarwyddo a cbynghori y rhai a sefydl- wyd i lynu wrth yr Arglwydd o lwyrfryd calon, Act. 11. 23. O ganlyniad dylai holl eglwysi Crist fod yn llafurus ac egniol i gynnal a helaethu teyrnas ac achos Iesu hyd y gallont yn mhob man, a bod yn ofalus am eu cydgynnulliadau crefyddol, a'u cyfraniadau eglwysig er ateb y cyfryw ddyben, "Gan fod yn helaetbion yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, a hwy yn gwybod na bydd eu Uafur yn ofer yn yr Arglwydd." 4. Mai un o ddybenion eraill y gym- deithas ydyw ennill a dwyn dynion at Grist. Pan oedd Crist ei hun ar y ddaear, rhoddodd bob annogaetbau i ddynion ddyfod ato neu gredu ynddo; a pban y gwelai drigolion Jerusalem yn parhau yn galon-galed, beb gredu, nis gallasai lai na wylo drostynt. Fel byn, rhoddodd i'w holl ganlynwyr esiajnpl fel y dilynent ei ol ef. Paul hefyd a 2 K