Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵflrfjpátim EGLURIADAU YSGRYTHYROL. "A bydd y dwthwn hwnw i mi wneuthur Jerusalem yn faen trwm i*r holl bobloedd," &c. Zech. xii. 3, 8. Y mae rhyw ddydd a dwthwn hwnw o flaen llygaid y prophwyd hwn yn barhaus—arfera yr ymadroddion y dydd, y dwthwn, a'r diwrnod hwnw, yn fynychach na'r un o'r prophwydi eraill; ac â'r ymadrodd, y " dydd hwnw," y terfyna ei brophwydoliaetb. Try ei olygon yn ol ar ei dechreu, a chofíä yr hyn a wnaethai Duw i dadau y bobl y llefarai wrthynt, y rhai a wrthodasent wrando ar lais y prophwydi gynt; a geilw sylw y meibion at y ffaith ddarfod i eiriau bygythiol Duw trwy enau y prophwydi hyny, oddiwes eu tadau am na wran- dawsent ar y rhybuddion a gawsent; a geilw arnynt i gymeryd esiampl oddiwrth eu tadau i ochelyd eu ffyrdd. Baich ei weinidogaeth atynt ydoedd yr un a'r eiddo ei gydweinidog Haggai—eu ceryddu am esgeuluso tŷ yr Arglwydd—eu hwyrfrydigrwydd i adeiladu yr ail deml dan yr esgus na ddaethai "yr amser etto"—a'u bod yn rhy weiniaid a thlodion i allu gwneud y fath orchwyl mawr, yn nghyda'u hannog ato, a'u calonogi ynddo. Tua chanol ei brophwydoliaeth, y mae yn troi ei wyneb i edrych yn mlacn i'r amser dyfodol, ac yn rhag- fynegu pethau a fyddent. Hòna o hyd ei fod yn llefaru drwy awdurdod a-than gyfarwyddyd dwyfol. Defnyddia yr ymadrodd, " Medd Arglwydd y lluoedd," fel sel ar bob peth a draetha. Nid oes un o'r prophwydi o'i flaen yn ei arfer yn agos mor fynych ag ef; ond y inae Haggai ei gydoesydd, a Malachi ei olynydd, yn debyg iddo yn hyn. T mae ei ddydd hwnw yn aml yn golygu dau gyfnod, neu yn hytrach ddau dymmor o'r un cyfnod, sef tymmor darostyngiad, a thymmor derchafiad y Gwaredwr—dyoddefaint Crist, a'r gogoniant ar ol hyny. Y cyntaf ydyw y dydd hwnw y cyfeirir ato yn y bennod o'r blaen, a'r olaf ydyw "dydd" a "dwthwn hwnw" y bennod sydd o dan ein sylw. Y mae yn anghenrheidiol craffu ar gysylltiad a pherthynas y ddwy ran brophwydoliaeth â'u gilydd niewn trefn i ddeall ysbryd a chyfeiriad priodol yr un sydd i fod dan ein hystyriaeth. Edrychir yn pen. xi. ar y genedl yn nhymmor ei phrawf olaf dan weinidogaeth bersonol Crist, yr hwn a osodir allan fel bugail yn porthi praidd, gan eu harail â dwy ffon, y rhai a elwir Hyfrydwch a lihwymau. Y ffon Hyírydwch ydoedd arwyddocaol o gyfammod Duw â'r genedl, a'i rhagorfreintiau eglwysig hithau dan y cyfammod. hwnw; a'r ffon Rhwymau a arwyddai y " brawdoliaeth rhwng Israel a Juda," eu cyfansoddiad cenhedlaethol—eu hun- deb a'u breiniau gwladol. Anrhydeddodd yr Arglwydd Iesu Grist holl osodiadau y cyfam- mod cyntaf—cyflawnodd ei holl gyfiawnder; ac etto wrth ei gyflawni, yr oedd hefyd yn ei dòri drwy ufudd-dod i ddeddf y cyfammod hwnw yr aeth efe yn ddiwedd iddi. Wedi porthi y praidd am dymmor, y mae y bugail yn eu rhoddi i fyny, o herwydd eu cyndyn- rwydd a'u gwrthnysigrwydd, ac yn tòri y ffon Hyfrydwch fel y sylwyd—yn tòri ac yn diddymu y cyfammod hwnw oedd rhwng Duw a'i genedl, gan ei lwyr ddilëu am byth; ac etto wrth ei dòri fel hyn yr anrhydeddodd ac y mawrhaodd efe ef. " Gan ddilëu ysgrifen- law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd yn ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymerodd hi oddiar y ffordd, gan eihoelio wrth y groes;" a chyhoedda yr efengyl nadoes mwyach wahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr, barbariad na Scythiad, caeth na rhydd— bod y ddau, Iuddewon a chenhedloedd, yn awr yn cael eu crëu yn un dyn newydd yn Nghrist Iesu. Y mae y bugail drachefn yn tòri ei ffon Rhwymau, yr hyn a arwydda ddrylliad cyfan- soddiad gwladwriaethol y genedl, a'i gwa&gariad dros wyneb y ddaear i blith yr holl gen- hedloedd. Cymerodd hyn le yn mhen yspaid o amser ar ol tòri y ffon Hyfrydwch, sef tyniad ymaith y cyfammod cyntaf fel y gosodid yr ail, yn nyfodiad Mab y dyn i ddin- ystrio Jcrusalem trwy y Rhufeiniaid. Mawr y drafferth sydd ar brophwydi y dyddiau diweddaf hyn i geisio crynhoi yn nghyd ddarnau yr hen ffyn, Hyfrydwch a Rhwymau, a'u GORPHBNAP, 1854. 2 I