Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵaetjiàra. EGLUIÌIADAü YSGRYTHYROL. Zecii. xii. 5, "A Üiywysogion Judah a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi ftjdd preswylwyr Jerusalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt," 8çc. Y raae yr addewidion a gynnwys prophwydoliaethau yr ysgrythyr am Iwyddiant teyrnas y Mess'ia bob amser yn chwyddo ac yn llifeirio drosodd. Pob addewid megys afon ar wlaw mawr yn cynnyddu nes y tỳr allan dros ei cheulenydd; a chan ennill nerth yn ei rhediad yn mlaen, drwy ymdywalltiad gwahanol aberoedd iddi, hi a ysguba o'i blaen bob attalfa a safo yn ei ffordd. Felly addewidion y brophwydoliaeth dan sylw. Yn y rhan a fu o dan ein hystyriaeth y tro o'r blaen, cysurid yr eglwys efengylaidd â'r sicrwydd na lwyddai holl rym ac ystryw ei gelynion yn ci herbyn—y gwneid hi yn faen rhy drwm i holl awdurdodau y ddaear allu ei dreiglo ymaith. Yno edrychid arni fel yn sefyll ar ei hamddiffyniad, yn dal ei thir yn wyneb rhuthrgyrchau ei gelynion: yma gosodir hi allan yn ymosod ar ei gelynion, ac yn eu gorthrechu a'u darostwng. Yno addawai yr Arglwydd ei gwneuthur megys maen trwm: yma addawa wneuthur ei gweinidogaeth megys "aelwyd o dân yn y coed, ac fel fflam dân mewn ysgub o wellt;" ac y byddai iddi "ysu y bobloedd oll o amgylch." Disgynodd yr Ysbryd ar yr apostolion ddydd y Pentecost yn "dafodau gwahanedig megys o dân, ac eisteddodd ar bob un o honynt." Troisant allan i'r byd megys aelwydydd o dân byw, gan losgi ac ysu ffordd y cerddent. Dodai eu gweinidog- aeth culunaddoliaeth a llygredigaethau y byd megys coed a gwellt ar dân yn mhob man, ncs oedd yr holl ymerodraeth Rufeinig yn un oddaith fawr drwyddi oll mewn llai na deugain mlyncdd o amser. Po fwyaf yr ymdrechai yr awdurdodau i'w ddiffoddi, mwyfwy angerddol yr ennynai. " A thywysogion Judah a ddywedant yn eu calon, Nerth i ni yw preswylwyr Jerusalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt." Arwydda hyn yr undeb ysbryd a theimlad a fyddai rhwng y tywysogion a'r bobl, yn eu cydymdrech yn erbyn y galluoedd gelynol. Fcl hyn yn gymhwys yr oedd agwedd ac ysbryd yr eglwys efengylaidd cyn, ac ar, ac wedi, dydd y Pentecost. Nid oedd hi ond ychydig o rifedi yn Jerusalem—" Nifer yr enwau yn yr un lle oedd yn nghylch ugain a chant." Ugain a chant o bersonau dinod a diddylanwad ■—" pethau distadl y byd—ffol-bethau—pethau nid ydynt,"—heb na chyfoeth, nac awdur- dod, na dysgeidiaeth; a'r achos a broffesent yr un mwyaf dirmygedig y pryd hwnw o'r un a gynnygiasid i sylw y byd erioed. Nid oedd ond ychydig ddyddiau er pan groeshoeliasid eu hathraw fel drwgweithredwr, a thybiai y byd gelynol ei fod etto yn gorwedd yn farw yn ei fedd. Wedi iddynt ei roddi ef i farwolaeth, credent fod ei achos wedi cwbl ddarfod arh dano byth; edrychent ar ei ychydig ddysgyblion fel gwallgofion annheilwng o'u sylw. Ond yno yr oedd y fyddin fechan, dan unarddeg o dywysogion, yn parotoi ei hun i'r ymdrech fawr oedd o'i blaen. Yr oedd ganddi fyd llawn gelyniaeth a rhagfarn i ymosod arno. Ym • ddangosai ei hanturiaeth yn un gwbl anobeithiol i olwg rheswm. Ond y maent "oll yn gytun, o un galon ac un enaid." Y mae eu ffydd yn eu Blaenor ac yn ei achos yn gryfach a chadarn- ach nag y buasai erioed. Teimlent " rym ei adgyfodiad ef;" ac oddiar hyny, ymaflai eu ffydd, " nid mewn doethineb dynion, ond yn nerth Duw." Parhäent yn gytun mcwn gweddi ac ymbil, gan ddysgwyl addewid y Tad, yr hon a glywsent gan eu Hathraw a'u Harglwydd. Ar ddydd y Pentecost, trodd y fyddin fechan hon allan o'r oruwch-ystafell, wedi ei gwisgo ânerth o'r uchelder; arweiniai y tywysogion hi allan i ymosod ar gryfder y gelyn; achyn naw o'r gloch y bore hwnw, wele amddiffynfeydd y gelyn. ar dân, a thair mil o'i fyddin wedi syrthio yn garcharorion croes Crist! Ÿn yr un ysbryd ag y cychwyn- odd y diwygiad yn Jerusalem ar ddydd y Pentecost y parhaodd i fyned yn mlacn drwy ystod yr oes apostolaidd. Cefnogid gweinidogion a gweinidogaeth y gair gan deimladau, Awst, 1854. 2 o