Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD HYDREF, 18 4 8 Y MORMONIAID. HANES J 0 S E I* H S M I T H , M E W N L L Y T II Y R O ' R A M E R I C A. " Fy Anwyl Frawd, Thomas Job,— Y mae yn dda genyf gael eyfleusdra, a bod yn alluog i ateb eich gofyniadau, yr byn a wnaf mor gywir ag y gallaf, sef rhoi hanes Joseph Smith, a'i ganlynwyr, yn yr America. Yr wyf yn dra gwybodus o honynt, ac yr oeddwn yn adnabod Joseph Smith yn eithaf da. Mewn gwirionedd, heb dwyll, yr oedd Joseph Smith yn fab i ddyn tlawd, ac yn dlawd ei hun o ran ei amgylchiadau, ac yn rhy ddiog i weithio drosto ei hun; ond yr oedd yn myned o fan i fan pa le bynag y meddyliai y cai damaid i'w fwyta. Nid oedd y cyffredin yn ei ystyried yn gall, o herwydd ei olwg diysbryd a difywyd. Rhyw leban mawr tra thew ydoedd, oddeutu chwe troedfedd a phedair mod- fedd o hyd ; ond er hyny, yr oedd yn dal sylw manwl ar bawb a phob peth—yn eithaf cyfrwys yn ei ffordd; ac fel yr oedd yn cynnyddu mewn oedran, cyn- nyddai befyd mewn twyll a chyfrwysdra. t£Yr oedd yn y gymydogaeth bòno, sef' Oliio, ddyn tra chyfoethog, ysgol- haig da a synhwyrol, wedi trrti pob peth heibio, gan ymroddi i astudio; ac yr oedd yn ysgrifenu Hyfr, ond nid oedd neb a wyddai ei gynnwysiad. Ei gyfeill- ion a geisient gael gwybod pa beth yr oedd yn ei astuíiio; ond ni ddywedai wrth neb; ac nid oedd un Ilyfr ganddo ond y Bibl. Bu y dyn ymn farw cyn gorphen y Ilyfr, ac nid oedd ei weddw yn foddlon i ddangos ei lyfrgell i neb; ond, yn mhen amser, priododd ei weddw â dyn arall, a chafodd y dyn hwnw afael yn llyfrgell y gwr cyntaf, a darllenodd y Hyfr newydd ag oedd ef wedi ei astudio, yr hyn oedd Chwanegiadau at yr ysgryth- yrau, ac amîygiadau o amryw o ryfcdd- odau o ddwyfol osodiad, arwyddion o'r mil blynyddoedd, yn nghyda ffordd ì wneuthur gwyrthiau i ddwyfoli ei lyfr. fyc. Önd nis gallai y dyn yma weled pa fodd i osod y Ilyfr mewn cylchrediad : ond gwyddai am Joseph Smith ei fod yn gyfrwys, ac anfonodd am dano. Daeth Joseph, a dyn arall gydag ef, yn ddirgel i gaei gweled y llyfr. Rhwymwyd y llyfr mewn aur yn ardderchog, a barnodd Joseph a'i gyfaill mai gwell oedd ei guddio yn y ddaear, ac i Joseph fyned ag ef 500 o filldiroedd i'w gladdu mewn lle anial. Ar ol i Joseph ddychwelyd, darfu iddo ef, a'r dyn hwnw ag oedd ganddo, gyduno i aros yn Ohio, a'r Ilali fyned gannoedd o filldiroedd oddiwrtho, ac i bob un o honynt brophwydo a breuddwydio am lyfr o ddwyfol osodiad, &c. Yna dechreuodd Joseph brophwydo a breuddwydio; ac ar ol tro, dacw un arall yn prophwydo ac yn breuddwydio yn agos yr un pethau, nes yr aeth siarad am y dynion gan bawb, o'u hanes yn y Newyddiaduron, a bod rhyw bethau ar ddyfod—fod dynion yn prophwydo, ac yn dywedyd fod diwedd y byd ar ddyfod, &c, " Ond ar ol prophwydo o dipyn i beth, wele Joseph yn cyhoeddi ei fod wedi cael amlygiad mewn modd goruwchnaturiol, gan Ysbryd yr Arglwydd, am chwaneg- iadau o'i ewyllys a'i air; a bod Ilyfr wedi dyfod oddiwrth Dduw, a'i fod yn llyfr auraidd, wedi ei osod yn y ddaear mewn man anghyfannedd; am iddo anfon dyn i'w geisio, ac y byddai Ysbryd Duw yn gyfarwyddyd iddo gacl y llyfr yn yr anialwch. Felly, anfonodd Joseph ei hartner i fyned i'w geisio, o herwydd gwyddai hwnw yn mha le yr oedd Josepb ac yntau wedi ei osod; ac aeth y dyn hwnw, a phobl eraill gydag ef i geisio y lîyfr, ac fe'i cafwyd. (Bedyddiwr oedd Joseph.) Yna, ar ol cael y lìyfr, nid oetld neb yn deilwng ì'w agor, na dnttod