Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

OCHENEIDIAU Y WEINIDOGAETH. 331 yw ef yn bleidiol iawn i'n Cymdeithas! Carem gael dadl ddifyr gyhoeddus ar y pwnc gydag ef. Adolyged ein sylwadau yn Nysgedydd Tach. 1847, tudal. 336. Nid oedd genym gyhoeddiad yma. Daethom yn gynnar i Lanegryn, a chawsom gyfeillach ein cyfaill anwyl Mr. Griffiths. Pregethodd Pughe yma. Casgliad, 4s. 4|c. Saron, 3s. 2c. Cawsom groesawiad neillduol gan Mrs. Evans, Ty'nllwyn. 12, Taith i'r Towyn. Cerddasom ar hyd y morfa at làn y môr. Yr oedd yno amrai o foneddigesau yn ymdrochi. Gwelsora lawer o gychod yn cychwyn allan i bysgota. Dychwelasom i'r capel —yr oedd yn orlawn, ond yn dra thywyll —dim ond pedair o ganhwyllau yn goleuoynddo! Casgliad, 6s. Y mae y Towyn yn un o'r lleoedd mwyaf cyfleus yn Meirion i rodiana ac i ymdrochi; ond nid oedd yma lawer o ddyeithriaid ar y pryd. Y peth mwyaf hynod a glywsora yma oedd fod Mr. Lloyd wedi prynu tyddyn, ac am roddi ei shop i fyny. Yr oedd yr hen dad yn siriol a charedig- 13, Daethom i Aberdyfì. Pregethasom yn y capel newydd. Ni chawsom gasgl- iad yma! Cafodd ein hanwyl frawd Mr. Evans lawer o boen a thrafferth i adeil- adu yr addoldy hwn—ond bydd yn gof- golofn anrhydeddus iddo ar ol ei farw. Golwg siriol ar yr achos. Y mae yn sicr o lwyddo. 14, Cawsom gyfeillach Mr. Evans a'i briod hawddgar. Nid anghofiwn eu caredigrwydd yn hir. Hoff iawn oedd genym eu gweled mor gysurus a ded- wydd yn eu tŷ hardd a chyfleus eu hunain. Dymunem o galon eu llwydd- iant. Cymerasom gwch, ac aethom ar yr af'on—yr oedd dau fachgen bach yn rhwyfo—aeth y cwch ar y traeth, a bu agos i ni a boddi! ond, trwy drugaredd, cawsom y làn eilwaith! Yn y prydnawn, ymadawsom ac aethom i Penal. Cyn- nulleidfa fawr. Casgliad 5s. 3c. 15, Taith trwy Machynlleth. Ymad- awsom ar y ffordd. Aeth Pughe trwy Lanbrynmair i'r Drefnewydd, a Thomas trwy Cemaes i'r Dinas—a phregethodd ac areitbiodd yno ar y Genhadaeth. 16, Cawsom orphwysfa yn y Dinas. Yr oedd yn alarus genym weled lle Mrs. Evans o'r shop yn wag! Amrai gyfeill- ion eraill wedi meirw yno. Cysgasom yn Nantyrhedyn. 17, Sàbbath. Pregethasom yn Beth- saida am 10 o'r gloch: casgliad, lls. 0|c. Ac yn y Dinas am 2 a 6: casgliad, £1 ls. 0|c. Yr oedd yma olwg hyfryd yn wir ar yr eglwys a'r gynnulieidfa, ac arwyddion o deimlad ac adfywiad. Yr oedd Mr. Williams yn Penarth. Dyma lle y terfynasom y daith. Y cyfanswm yw £13 12s. 6|c. Yr ydym heb dder- byn casgliadau Cynwyd, Bethel, a Pen- ystryd. Diolchwn iddynt am eu hanfon yn fuan i'n Trysorydd, R. Tibbott, Ysw. Llanfyllin. Cawsom daith gysurus, a derbyniad croesawgar yn mhob lle; ac wrth ei hadolygu, gallwn ddywedyd ein bod yn teimlo yn ddedwydd wrth feddwl ein bod wedi cael y fraint o osod yr achos teilwng o flaen ein cyfeillion yn Meirion am y tro cyntaf erioed. Yr oeddym yn teimlo yn fawr dros drigolion y Gororau wrth gychwyn—gosodasom y paganiaid yma i orwedd wrth ddrysau preswylwyr gwladgarol Meirionydd—ac yr ydym yn sicr fod yno gannoedd yn awr yn barod i'w cynnorthwyo, nid am unwaitb, ond yn barhaus. Credwn y gwna yr eglwysi gasgliadau blynyddol cyson at ein Cym- deithas o hyn allan. Carem roi taith etto drwy holl Wynedd, a'r Deheudir hefyd yn yr achos. Rhaid i'r achos gael ymledu dros holl Gymru. Yr ydym yn bryderus am glywed fod ein brodyr yn Môn, ac Arfon, a Dinbych, a Fflint am bleidio yr achos. Un Gymdeithas fawr sydd eisieu er Iledaenu yr efengyl ar yr holl Ororau, o ben draw sir Fflint i ben pellaf sir Fynwy. O! pa bryd y cawn ddigon o drysorfa i gynnal deg o Gen- hadon ar Glawdd Offa? Gadewch i ni yn unfrydol amcanu at hyn, a phender- fynu mŷnu cael hyn. Caiff enwau y cyfeillion a gyfranasant hanner coron ac uchod, ymddangos yn yr Adroddiad nesaf. OCHENEIDIAU Y WEINIDOGAETH AT EGLWYSI V GWEITHFEYDD. Mi a fum yn ieuanc, ond yr ydwyf yn awr yu hen. Mae aml i auaf wedi inyned dros fy mhen, a Huaws o wahan- ol droion wedi fy nghyfarfod; ac fel y cyffredin o henafgwyr »ydd wedi eu dal gan y dyddiau blin, nis gallaf lai na chymeryd trem ar y blynyddoedd sydd wedi myned heibio, er ail ddwyn i'm cof ÿr hen gyfeillion gynt, ac amgylch- iadau yr hen amseroedd. Mae hen