Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. MAWRTH, 1849, DYLANWAD GWELLIANTAU A DYFEISIADAU CELFYDDYDOL AR FOESAtT Y BYD, CAN Y PARCH. R. PARRY, LLANYMDDYFRI. Y mae gwerthfawrogrwydd pob cangen o wybodaeth i'w benderfynu yn ol y graddau y byddo yn effeithio yn ddaionus ar foesau, amgylehiadau, a dedwyddwch dynion yn gyffredinol. Y mae yn amlwg fod holl alluoedd y meddwl, yn gystal ag aelodau y corff, wedi eu hymddiried i ddyn fel arfau i weithio â hwy, a bod elfenau natur wedi eu cyflwyno at ei wasanaeth fel defnyddiau i weithredu arnynt. "Gosodwyd pob peth dan ei draed ef." Nid oes dim yn gcsod rhag- oroldeb eglurach ar y cenhedloedd gwar- eiddiedig, amgen y barbariaid gwylltion, na'u gwybodaeth o'r gwyddorion a'r celfyddydau. Trwy y wybodaeth o ddeddfau peiriannyddiaeth y mae pob gwelliant naturiol, o'r bron, yn cael ei ddwyn yn mlaen, mewn gallu, grym, ac ysgogiad, trwy yr holl greadigaeth; ac y mae dylanwad yr elfenau—dwfr, awyr, a thân—yn cael ei ddwyn yn wasanaeth- gar «t amgylchiadau bywyd ; oblegid pa mor egwan bynag y gallo dyn ymddangos o ran ei alluoedd corfforol ei hun, trwy wybodaeth o ddylanwad yr elfenau ar eu gilydJ, ac o'r modd i'w dwyn i weith- redu y naill ar y llall, y mae meddwl yn cael perffaith feistrolaeth ar ddefnydd, ac y mae "dyn yr hwn 9ydd bryf, a mab dyn yr hwn sydd abwydyn," yn gallu "estyn ei law at y gallestr—yn dym- chwelyd mynyddoedd o'r gwraidd—yn peri i afonydd dori drwy y creigiau, ac y mae ei lygaid cf yn gweled pob peth gwerthfawr—y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag Ilifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni." Y mae treiddgarwch meddwl dyn yn ddiderfyn, a'i olrbeiniadau yn ddiddi- wedd. Nid oes na rhagfarn na defod, na dichell na chyfraith, a all osod terfyn i'w ymchwiliadau, a dywedyd, " Hyd yma yr ai, ac nid yn mhellach; ac yma yr attelir dy holl ymofynion di." Y mae pob dalen aagorer yn mhlygion gwybod- aeth o'i flaen yn codi awydd, ac yn crëu hawsder iddo fyned rhagddo i agor ychwaneg yn barhaus. Nid ar unwaith y maent yn ymledu ger ei fron, ond y mae yn ymestyn yn raddol at berffeith- rwydd. Y mae cyflwr presenol y byd, o ran ei ddarganfyddiadau, yn ffrwyth llafur, prawf, ac olrheiniad llawer oes. Pa faint bynag oedd gogoniant Groeg a Rhufain gynt am eu gwybodaeth yn y celfyddydau, a pha eanged bynag y dygodd Archimedes oleuni ar ddeddfau peiriannwaitb, a rheolau rbif a mesur, yn eu cymhwysiad at arferion eyffredin, y mae yn amlwg na welodd y cynfyd ond agoriad y dalenau cyntaf yn nghyf- rol fawr y celfyddydau a'r gwyddorion gwerthfawr, oedd yn aros yn nghroth amser i gael eu genedigaeth yn yr oesau diweddar, a'n dyddiau ni. Wedi i'r byd, yn ei dreigliadau maith, ddyfod yn raddol i drefn gymdeithasol, yr hyn a ddechreuwyd mewn teuluoedd, ac a ymestynodd o fesur ychydig at gyf- undebau a chenhedloedd, yr oedd yn rhaid i bob dyn a phob brodoriaeth ddyfeisio rhyw foddion er eu cynnaliaeth, a!u cysur, a'u diogelwcb eu hunain, feí yr oedd "angen yn dyfod yn fammaeth dyfais." Yr oedd y ddaear wedi ei rhoddi i feibion dynion, a'r "defaid a'r ychain oll" wedi eu cyflwyno at eu gwasanaeth. Yr oedd y Creawdwr mawr ei hun wedi rhoddi awgrymiad i ddyn, yn ngardd Eden, o egwyddorion amaethyddiaeth, pan y gosododd ef yno i'w " llafurio a'i ehadw," ac wedi arwyddo iddo beth a allai celfyddyd wneud o grwyn yr anifeil- iaid, fel gwisg, pan y dilladwyd ein cynrîaint gyntaf erioed. Yr oedd medd- iant a chyfnewidwriaeth yn codi yn nat- uriol fel yr oedd poblogaeth yn cynnyddu, ac amgylchiadau yn caniatâu. Fel yr oedd perthynasau yn cael eu ffurfio, rhwymedigaethau yn codi, a chyfam- raodau yn cael eu llunio rhwng dynion