76 SCORPION A'I ERLIDWYR. du? Os meddyliodd Duw gymaint o honynt fel y defnyddiodd yr elfenau o'u plaid mewn modd gwyrthiol, fel y can- iataodd iddynt gael rhodio am oesau yn ngoleuni ei orseddfainc, fel yr anrhyd- eddodd hwynt drwy eu defnyddio fel offerynau neillduol i gyflawni ei amcanion mwyaf ac ardderchocaf, pa ddadl arall sydd yn angenrheidiol i beri i ni gyd- weithredu ag ef yn ei fwriadau dadgudd- iedig o drugaredd tuag atynt? Os ydym wedi eu hangbofio hyd yma, ai ni chaiff y gofal a ddangosodd Duw tuag atynt, y dybenion a ddygodd oddiamgylch drwy- ddynt, yr addewidion a roddes ef o berthynas iddynt, geryddu ein difaterwch beius, a'n tywys i ddywedyd, gydagolwg ar ísrael fathredig, mewn ysbryd cariad, " Os anghofiaf rìi, anghofied fy neheulaw ganu; glyned f'y nhafod wrth daflod fy ngenau?" Bach fyddai dywedyd am y peth a roddwch mai offrwm i ddynoliaeth wrth- odedig ac isel fydd; dynoliaeth wedi cwympo o le uchel ydyw, ac a gyfodir ar ol hyn i uchder mawr; dynoliaeth a feddiannodd fendithion cyfoethocaf, yn gystal a melldithion trymaf Duw ydy w; 'ie, dynoliaeth sydd wedi ei chysegr-gadw ar yr orsedd gyfryngol, yn mherson unig- anedig Fab Duw. Bydd ypeth a rodd- wch er anrhydedd i Abraham, tad y ffyddloniaid; a phwy a ŵyr nad yw yr hen batriarch gogoneddedig yma yn dyst o'ch rhoddion! Bydd y peth a roddwch er anrhydedd i Grist, hâd Abraham; ac yr ydym yn sicr o'i bresenoldeb ef, oblegid y mae efe yn mhob man lle y byddoei saint, ac y mae ei lygaid ef fel y fflam dân. Yr wyf yn erfyn arnoch roddi, fel y boddlonoch yr holl gynnulleidfa ddysglaer a ddichon fod yma yn anweledig; a phan gasgler Israel, a phan ddadseinio bryniau a dyffrynoedd Judea gan eu caniadau; ie, pan gymero Israel ogoneddedig ei lle ar fynydd Sion uwchlaw a thu fewn i'r deml dragwyddol fel yr arwydd benaf o fuddugoliaeth a gafodd gras, yr em ddysgleiriaf yn nghoron Cyfryngwr, pwy a ŵyr na fydd y rhoddion a'r penderfyn- iadau yr awr hon yn meddyliau y dyrfa ddedwydd y pryd hwnw? SCORPION A'I ERLIDWYR. Mr. Dysgedydd,—Efallai y barnwch chwi, a diddadl y barna Jlawer o'ch darllenwyr, y gallai fod genyf orchwyl- ion mwy angenrheidiol i'w cyflawni nac ymdrechu tawelu ychydig ar yr ystorm gynddeiriogsydd yn siglo y Dywysogaeth mewn canlyniad i ymddangosiad ysgrif gampus Scorpion yn eich Rhifyn am Dachwedd diweddaf. Gallaf eich sicr- hau y buaswn innau hefyd o'r un medd- wl oni buasai ddarllen o bonof yr ysgrifau rhyfeddol sydd wedi ymddangos yn eich tudalenau—y cyfarfodydd rhyfeddol sydd wedi eu cadw gan rai brodyr—y pender- fyniadau rhyfeddol sydd wedi eu gwneud gan rai egîwysi—y cynhwrf rhyfeddol sydd wedi meddiannurhai diacouiaid—y digofaint rhyfeddol sydd wedi ennyn rhai gweinidogion—a'r ymdrecbiadau rhyfeddol a wneir yn ddirgel a chy- hoeddus i wneud Scorpion yn ddrylliau, a'i dý yn domen. Yr wyf yn cydwybod- ol farnu fod sefyllfa bresenol Annibyn- iaeth—angenrheidiau yr oes—rbyddid barn—rhyddid ymadrodd—a rhyddid ymddygiad yn uchel alw ar bob dyn sydd yn caru y naill neu y llall o'r pethau gwerthfawr hyn i wneud ymdrech er eu diogelu. Os gadewir i'r eilyllon a gyfod- wyd gan ysgrif Scorpion gael eu rhwysg, buan y bydd eglwysi Annibynol yn fwy gresynus eu cyflwr na'r Israeliaid yn gweithio yn y priddfeiui—llawer o ddia- coniaid yu fwy gormesol na Nero, yn fwy bwystfilaidd na Caligula, ac yn fwy meddw a'r waed na phutain Babelr—a'r gweinidogion yn fwy erchyll eu dyoddef- iadau na'r brenhinoedd difodiau o dan fwrdd Adonibezec. Wrth ysgrifenu fel hyn, na feddylied neb fy mod yn cymeradwyo pob syniad, yn cadarnhau pob brawddeg, ac yn mawrygupobtroell-ymadrodd yn " Och- eneidiau y weinidogaeth." Mae yn yr ysgrif hòr.o rai gosodiadau ag yr wyf yn euhammau, rhai casgliadau nad wyf yn eu credu, ambell ddarluniad ag nad wyf yn ei hoffi, a llawer llinell ag y buaswn yn ewyllysio ei gweled yn fwy destlus a chaboledig. Ond y mae ynddi lawer o osodiadau cywir, o wirioneddau athrist, o ddarluniadau trymllyd, ac o hyawdledd grymus. Na thybied neb mai ffol o ddyn yw Scorpion. Bydd y neb a wnelo hyny yn llawer ffolacb. Dengys ei ysgrif' ei fod yn feddyliwr gwreiddiol, annibynol, a grymus—ei fod yn alluog i wisgo ei f'eddyüau mewn iaith briodol, nertbol, a hjawdl. Dengys y rìymhestl sydd wedi dilyn ei lythyr forì eraill yn barnu hyny, ac yn teimlo fod ei frath- iadau yn cyrhaedd yn bellach na'r glas- groen. Y mae wedi rhoddi ergyd i'r byw; a bydd llawer o eglwysi Annibynol Cymru cyn hir yn cydnabod eu rhwymau am waredigaeth oddiwrth anrheithiau llawer locust difaol i'r ffrcwyll ysgorpion- airìrì hnn. Hyd yma, ymrìrìengys forì