Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." ♦'•»♦ êaítüaìr gr (ffenggl Nm oes unrhy w bwnc yn cael lle dyínach yn meddyliau a myfyrdodau pregethwyr yr efengyl yn gyífredinol na'r mater hwn, oblegid y maent hwy, wrth eu swydd, yn gwahodd pechaduriaid i droi eu hwynebau at Iesu Grist am eu bywyd—y maent yn genadau dros Grist, fel pe byddai Duw yn deisyf ar ddynion trwyddynt hwy—erfyniant ar eu gwranda- wyr dros Grist, cymoder chwi â Duw. Yr oedd yr efengyl yn y byd o'r dechreuad yn galw ar ddynion i ddy- chwelyd at Dduwam eiheddwcha'iífafrau. Dywed Paulfod yr Arglwydd wedi rhag-efengylu i Abraham; ond gall yr efengyl ddweyd, fel y dy- wedodd y Gwaredwr, "Cyn bod Abraham yr wyf fi." Trwyddi hi, yr achubwyd pawb mewn oedran, a achubwyd cyn y dylif, yn gystal ag wedi y cyfnod hwnw. Gwelir yn amlwg fod goruchwyliaeth Moses yn llawn o'r efengyl. Gosodid hi allan dan yr Hen Destament, nid yn unig drwy aberthau a phuredigaethau, y rhai oeddynt gysgodau daionus bethau i ddyfod, ond coríf y rhai oedd o Grist; ond mae yr efengyl, dan yr hen gyfamod, yn llefaru mewn iaith eglur, ac ymadroddion sydd yn dilyn eu gilydd fel modrwyau mewn cadwen, neu dònau y môr yn dyfod y naill ar ol y lleill i'r traeth. Mae agos bob gwirioáedd sy'n gysylltiedig âg iachawdwriaeth dynion yn yr Hen Destament. Ychydig o egwyddorion newyddion sydd yn y Testament Newydd. Hen egwyddorion sydd yno, gan mwyaf, ond bod yr hen egwyddorion hyny wedi eu cylchynu â ooleuni newydd a thanbaid iawn. Camgymeriad rnawr fyddai golygu mai math o gyfamod gweithred- oedd i Israel ddyfod i i'yny drwyddo ar dir teilyngdod personol oedd cyfamod Sinai. Cyfamod i fod yn gynorthwyol i'r addewid a wnaethid i'r tadau i ddal ei thir yn nghanol llygreddau yr oesoedd, o ddyfodiad Israel o'r Aipht hyd ymddangosiad y Gwaredwr, oedd y cyfamod hwnw. Am yr addewid, neu yr amod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yn Nghrist, nid yw y ddeddf oedd 430 o flynyddoedd wedi hyny, yn ei dirymu i wneuthur yr addewid yn ofer. Beth, gan hyny, yw y ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddeuai yr Had, i'r hwn y gwnaethid yr addewid. Amcanion cyfamod Sinai, gan hyny, oeddynt y rhai canlynol:—Bod yn wrthglawdd i lygredigaeth; dangos i bechaduriaid eu cyflwr colledig, a'u hangen am Gyfryngwr addas i'r ddwyblaid rhyngddynt â gorsedd Duw, ac esbonio iddjrnt Chwefror, 1880. c