Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." ■+++>+■ | jpfatbbf gotBal Mae y ddecldf a'r efengyl ochr yn ochr, a llaw yn llaw yn nhrefn fawr iachawdwriaeth pechaduriaid. Gallesid dwyn llywodraeth foesol Duw yn mlaen yn gyfiawn a theg, heb yr efengyl; ond y mae cyd- weithrediad y ddwy egwyddor fawr—cyfiawnder a gras. yn anhebgorol angenrheidiol yn nghadwedigaeth pechaduriaid. Mae cymhwysder neillduol mewn dyn i fod yn ddeiliad deddfau. Mae efe dan amryw o ddeddfau dynol, rnegys deddfau teuluaidd, deddfau dinasol, a deddfau brenhinol neu wladwriaethol, a dylai barchu y cyfry w, ac ufuddhau i'r deddfau hyny, mor bell ag y byddont yn gyson â deddfau uwch llywodraeth y Brenin mawr. Mae dyn hefyd yn ddeil- iad amryw o ddeddfau dwyfol, ac y maent yn feyrnasu arno beunydd. 1. Mae dan ddeddf fawr a chadarn Pwys a Thyniad. Mae y gyfraith hòno fel pe byddai wedi ei gwau drwy ei gyfansod^Iiad corff'- orol. Mae gydag ef yn mhob man, ac ni ollwng ei gafaehon o hono. Pan esgyno i grib uchaf mynydd, ni oddef y ddeddf iddo fyned gam yn uwch na hyny; hi a ymeifl ynddo, ac a'i ceidw ef i lawr yn effeithiol. Mae llawer o ddamweiniau gofidus a marwol, yn fynych, yn gorddiwes dynion fel deiliaid y ddeddf hon; ond er pob anfantais cysylltiedig â hi, mae yn well i ddyn fod dani na phe gallai fod yn rhydd oddiwrthi. Heb ddylanwad y ddeddf hòno arno, byddai yn ysgafnach na phluen, ac yn hollol anghymhwys i lenwi cylchoedd cyffredin bywyd. 2. Mac dyii cto yn ddeiliad grcddfau, fel llawer o greaduriaid eraill. Pa beth yw greddí'? mae yn anhawdd i ni amgyffred; ond eglur yw ei bod yn rhywbeth sydd yn dysgu i aderyn wneud ei nyth mor drefnus y tro cyntaf erioed a phe buasai wedi bod am flynyddoedd yn cael ei gyfarwyddo i hyny gan hen adar. Dysga bryf copyn i wneud ei we yn rhwydwaith cymhwys iddo i ddal, ac i sicrhau ei ymborth angen- rheidiol. Mae ei ilywodraeth i'w gweled yn nghwch y gwenyn, ac yn nhwmpath y morgrug. Mae y durtur, yr aran, a'r wenol yn dyfod ac yn ymadael wrth awgrymiadau greddfau sydd yn eu natur. Mae dyn yntau yn ddeiliad greddfau. Dyna sydd yn dysgu iddo ef sugno y fron y dydd y genir ef, a dyna sydd yn dysgu iddo ef ymbarotoi i am- ddiö'yn ei hunan pan fyddo ymosodiad arno yn debyg o gael ei wneu- thur. Mae yn greddfol ddianc oddiwrth bethau niweidiol, ac yn greddfol ymgyrhaedd am fwynhau llawer o fwynderau bywyd. 3. Mat dyn, drachefn, dan lywodraeth deddfau meddyliol. Ni all efe Mawrth, 1880. E