Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." -♦♦♦♦♦• íabolacft €xmt (GAN Y PARCH, M. C. M0RRI9, COEDPOETH.) "Eithr y petliau hyn a yssrrifenwyd, fel y credoeh chwi mai yr Iesu yw Crisr, Mab Duw; chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef."—Ioan xx. 31. Amcan penaf holl Air Duw yw dwyn eneidiau at y G-waredwr, ond y mae gan bob awdwr ac ysgrifenydd ynddo ei ffordd neülduol ei hun i wneud hyn. Nid yw y gwahaniaeth hwn yn ymddangos mor fawr yn neb ag yn y pedwar Efengylwr. Mae y pedwar a'u golwg ar yr un person gogoneddus, ac yn amcanu dangos neillduolrwydd y person hwnw i'r byd, ond y mae pob un yn gwncud hyn yn ei fíbrdd ei hun, ac y mae y ffordd Iiòdo yn wahanol iawn i ffbrdd y tri arall. Ond nid diffyg ac anmherffeithrwydd yw y gwahaniaeth hwn; doeth- ineb yw, ac y mae amcan arbenig yn cael ei gyrhaedd trwyddo. Mae cyfeiriad gweinidogaeth Mathew at yr Iuddew, a'i ymdrech dibaid ef y w dangos, yn y lliw cryfaf, yr hyn sydd Iuddewig yn nghymeriad yr Arglwydd Iesu. Profa, trwy ddyfyniadau helaeth o ysgrifeniadau yr Hen Destament, mai efc oedd eu Mess'ía hir-ddysgwyliedig hwy, ac ymdrecha ddenu eu serchiadau ato fel y cyfryw. Y mae gweinidog- aeth Marc a'i golwg ar y cenedloedd yn benaf, ac ymdrecha ddangos iddynt ogoniant Iesu fel Mab y âyn; fod ei galon dyner yn cydym- deimlo â dyn fel dyn, lle bynag y byddo, ac o ba genedl bynag yr hana; iddo cld'od i geisio yr hyn a gollasid; iddo gael ei wneud mewn cyffeíybiaeth dynion, yn ogystal a'i gael mewn dull fel dyn ac Iuddew; ac fel y cyfryw, fod hawl, a'r ùnrhyw hawl, gan bob dyn yn y Dyn Crist Iesu. Mae gweinidogaeth Luc, os un, yn fwy cyffredinol fyth. Mae efe yn tybied fod Iuddew a Groegwr, wediiddynt ddyfod unwaith at lesu Grist, yn colli eu neillduolrwydd cenedlaethol, ac yn sefyll mewn angen am rywbeth i gyfarfod eu heisieu fel pechaduriaid ar ddarfod am danynt. Älae gan Luc olwg neillduol, yn ei Efengyl ef, ar broffes- wyr crefydd, a dullwedda fywyd y Gwaredwr i gyfateb i'w hanghenion ysbrydol—i fod yn gysur ac adeiladaeth iddynt. Casglu bwyd i'r dyn duwiol y w gwaith Luc; lloffa ty wysenau iddo yn meusydd breision hanes bywyd y Gwaredwr, a rhoddi sicrwydd iddo am y pethau y'i dysgwy(F ynddynt, Luc i. 4. Mae Ioan yn myned yn mheìlach eto i diriogaethau yr ysbrydol. Mae efe yn ehedeg fel angel yn nghanol y nef, ac yn edrych i mewn i ddyfnion bethau yr Efengyl. JMae efe yn gweled nad all holl gysur Luc fod o unrhyw werth gwirioneddol i Chwei^roe, 1881. d