Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y *D Y S GE D Y D D: â'k IIWN Yli UNWYD "YR ANNIBYNWH." ---------------------+^+---------------------- m , Srubhb fêtonntöogion. YSGRIF I. Wrth urddiad y deallir y neillduad cyhoeddus hwnw a wneir ar un i waith y weinidogaeth. Nid y\v yr ymadrodd, mswn un modd, yn un hapus, oblegid y cysylltir âg ef y syniad o ürdd, yr hyn ni chydnabyddir gan Ymneillduwyr Protestanaidd; ond fel llawer o'r fath eiriau, defnyddir ef, er na chysylltir âg ef yr ystyr wreiddiol. Maj rhyw amgylchiadau yn cymeryd lle yn awr ac eilwaith yn hanes ein henwad sydd yn peri fod y mater yma yn troi i fyny, ac y mae yn eglur fod ilawer o anwybodaeth yn ei gylch, a chamesbonio arno. Amcanwn gymeryd y mater i fyny yn deg ac anmhleidiol, gan geisio cael allan yr ystyr a gysylltir âg urddiad yn ol y drefn Gynulleidfaol, ac fel y credwn yn ol dysgeidiaeth y Testament Newydd; ond cyn dyfod at hyûy, y mae genym rai sylwadau arweiniol y dymunem eu gwneud ar urddiad yn gyffredinol. Y SYNIAD OFFEIRIADÛL AM URDDIAD. Mae gan Eglwys Sefydledig ein gwlad syniad am urddiad sydd yn gwneud yr holí rai a urddir ar unwaith yn offeiriaid. Credant hwy fod yr esgobion yn swyddogion o radd úwch na gweinidogion cyffredin yr Eglwys, fel yr oedd yrapostolion yn uwch mewn awdurdod na'r henuriaid a ordeinid yn mhob eglwys. Credant hefyd mai gan yr esgobion, y swyddogion uwchraddol yma, yn unig y mae yr awdurdod i osod eu dwylaw ar ddyn- ion, a'u gwneud yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd. Ac y mae y rhai o honynt syddyncredu yr hyn aelwir yn "Olyniaeth Apostolaidd' — ac y^nae nifer y rhai sydd yn credu hyny yn lluosog iawn—yn dal fod yr olyniaeth yma wedi ei gadw ynddidor er dyddiau yr apostolion, ac y gellir casglu yn nghyd holl ddolenau y gadwyn. Mae y fath syniad, o angen- rheidrwydd, yn gwneud yr holl weinidogion na urddwyd felly yn ymyrwyr diawdurdod â phetnau cysegredig, ac heb fod yn ddim amgen na dilynwyr Corah, Dathan, ac Abiram. Nis gallwn yma fyned arx>l y syniad yna, a dangos ei wrthuni; ond yn unig dywedwn nad oés dim yn y Testament Newydd, nac yn ysgrifeniadau tadau yreglwys yn ycanrifoedd cyntaf wedi yr oes apostolaidd, sydd mewn un modd yn dangos fod yr esgobion yn swydd- ogion gwahanol i'r henuriaid, llawer llai eu bod yn uwchraddol iddynt, ond mai dau enw ar yr un swyddog ydyw esgob a henuriad. Os felly, y raae yr hòniad o awdurdod uwcliraddoí yr esgobion yn syrthio yn hollol i'r llawr. Yn ol y syniad offeiriadol, y mae holl awdurdod y gweinidog yn Ebrill, 1881. H