Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." -♦*♦♦♦- 1 gefttgbb ëonn o'r fÍDÛr fioteu. (gan y parch. l. probert, porthmadog.) "Eithr yr hwn a edrych ar beríf aith gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, a fydd dedwydd yn ei weithred," Iago i. 25. Ymdrinia yr apostol yn yr adran lion o'i Epistol â'r modd yr effeithia gair Duw "gadwedigaeth yr enaid." Dechreua trwy anog dyn i ymwrthod â llygredigaeth pechod, a derbyn yr impiedig air. Mae cynal bywyd yn gofyn am ymgadw oddiwrth yr hyn sydd niweidiol, ac ym- gyfranogi o'r hyn sydd lesol; ond y mae gwaredu bywyd yn golygu ymwrthod â'r drwg a dewis y da, "gan ddyosg yr hen ddyn yn nghyda'i weithredoedd, a gwisgo am danoch y dyn newydd." Ehyw haner iechydwriaeth fyddai y "dyosg" heb y "gwisgo," pe byddai y fath beth yn bosibl; ond nid yw yr ysgrythyrau yn caniatau fod hunan-iachâd, heb driniaethau gras Duw, yn bosibl. Ni ellir gwella dyn â gwahardd- iadau. Md oes dim yn feistr ar dywyllwch ond goleuni, a daioni yn unig fedr orchfygu pechod. Mae meddwl, a chalon, a llaw y pechadur yn cael eu gwaghau o'r hyn sydd ddrwg, am fod eu heisieu arno i dderbyn yr "impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau." Beth bynag ellir wneud yn y byd hwn, a throi o'r neilldu air Duw, ni ellir cadw "eneidiau." Golyga iawn-dderbyniad o'r gair blentynrwydd yn y derbynydd i gyfarfod â symlrwydd y gwirionedd. Os ydyw cyfrol natur yn cuddio ei gwersi goreu oddiwrth y rhai bychain, ac yn eu datguddio i'r "doeth- ion a'r rhai deallus," y mae y gyfrol ddatguddiedig i'r gwrthwyneb, yn "eu cuddiorhag y doethion a'r rhai deallus," ac yn eu datguddio i rai "bychain" "I ti er yn fachgen wybod yr ysgrythyr lan, yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth." Cyfarfydda y gair â'r dyn yn y plentyn; a chyfarfod wna hefyd â'r plentyn yn y dyn. Nid yw y tad yn rhoddi rheswm paham i'r plentyn am bob peth a orchy- myna, fel pe byddai yn rhyw athronydd enwog; ond dysgwylia iddo dderbyu ei orchymynion, a'u cyflawni, am mai efe sydd yn eu rhoddi; a phan wna y plentyn felly, er fod ei ddeall ef yn fychan, gweithreda ddoethineb y tad ei hun. Mae doethineb y tad yn ymgorffori yn ymddygiad ei blentyn. Er fod digon o le i'r meddyliau galluocaf i edrych ar ryfeddodau gair Duw, "Dechreuad doethineb yw ofn yr GrORPHENAF, 1881. P