Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dp$ôedpöd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." - Cyf. Newydd—94.J HYDREF, 1910. [Hen Gyf.—590. IESU Al CRIST? Ysgrif III. GAN Y PARCH. H. M. HUGHES, B.A., CAERDYDD. I. (OFYNIAD mawr fy ysgrif ddiweddaf oedd—" A ydyw yr argraff wnaed ar feddwl y dysgyblion... yn nglŷn âg arbenigrwydd personoliaeth yr Iesu, yn cael ei chyfleu ar feddyliau diduedd heddyw ? A ydyw yr Efengylau heddyw yn ein gorfodi ni, fel y gorfododd cyfathrach bersonol â'r Iesu y dysgyblion cyntaf i dd'od i'r penderfyniad ei fod y fath eithriad i'r cyffredin o'r ddynoliaeth mewn rhai cyfeiriadau nes ein gwasgu i ddweyd ei fod, er mor naturiol â ninau, ar yr un pryd yn oruwchnaturiol hefyd ?" A dyna'r gofyniad sydd i setlo'r mater o Dduwdod Crist yn ymarferol a hanesyddol. Nis gall, bid siwr, ei benderfynu yn athrawiaethol, ond mae'r ffaith i dd'od o flaen yr ath- rawiaeth, ac i fod yn sylfaen iddi. Yn gyntaf yr argyhoeddiad, ac wed'yn yr esponiad—dyna'r drefn. Mae genym oll brofìad a sicrwydd o oleuni a gwres a thrydan a bywyd cyn dechreu ymholi o honom yn nghylch eu natur, na ffurfio unrhyw ddamcaniaeth i'w hegluro. Fy amcan yn yr ysgrifau hyn yw dangos mor eglur ag y gallaf fod y ffaith o'r Iesu fel y ceir hi yn yT Efengylau c^mtaf o hyd yn ein gorfodi, fel y gorfododd y dysgyblion cjmtaf, i'w dderbyn a'i addoli fel Duw, ac mai yr un yw yr Iesu hanesyddol â'r Crist tragwyddol. Tra dywed y gwrthwynebwyr, ac ysgrif yr Hibbert Journal yn arbenig, mai yr olaf sydd bwysig, ac nad yw Iesu ond un o lawer ymgnawdohad o'r Crist, dywedaf fìnnau gyda'r eglwys ar hyd yr oesau na buasai genym Grist 0 gwbl onibae am Iesu, ac mai Iesu yw y Crist mewn ystjn: hanfodol a chyfyngedig (exclusive)—mai efe yw unig-anedig Fab Duw yr Hwn yw :gẁrthddrych, ac nid deiliad addoliad. Dadansodder, gan hyny, fel y dechreuais wneud yn fy ysgrif ddiwedd- 1d