Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD, Rhif. 253. IONAWR, 1843. Cyf. XXIT. COFIANT MR. WILLIAM JONES, PENISA'RDREF, DINBYCH. Ganwyd Mr. W. Joncs o rieni cref- yddol, Mawrth 21,1761. Yr ocdd ei ricni, Richard a Margaret Jones, yn byw mewn tyddyn yn mhlwyf Iíeneglwys, Môn. Yr oeddynt yn aelodan parchus o eglwys yr Anni- bynwyr yn Rhosymeirch; ac yno y claddwyd ei dad yn y flwyddyn 1781. Yr oedd W. J. yn gymydog, yn gyfoed, ac yn gyfaill mawr gyda'r Parch. Owen Thomas, o Garrog. Ffurfiasant gyfeillgarwch pan yn blant, a pharhasant yn gyfcillion serchog ar hyd eu hoes. Diau fod y ddau mewn cyfeillgarwch per- ffeithiach heddyw, uwch cyrhaedd cwyno gan flinder y daith, ond yn canu yn eu bro eu hunain. Pan oedd W. J. yn 18 mlwydd oed, gadawodd wlad Môn, ac ym- sefydlodd yn Ninbych, lle y treul- iodd ei oes i ben mewn dedwydd- wch teuluaidd, defnydd eglwysig, a pharch cyffredinol. Pan oedd tua 19 ralwydd oed, derbyniwyd ef yn aelod i'r eglwys Annibynol yn Lôn yr Alarch, y pryd hyny tan ofal gweinidogaethol y Parch. Daniel Llwyd. Bu yn briod ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf yn fuan, ond bu yn briod â'i ail wraig am 49 o flynyddau. Terfynwyd ty- mhor v briodas hon trwy ei farwol- aeth ef; ac ymae ei briod Elizabeth Jones yn aros hyd yma mewn parch (fel mam yn Israel) gan bawb sydd yn ei hadnabod. Bu iddynt amrywiol o blant, ond nid oes ond dau yn aros ar ol cu tad. Yr ieuangaf o'r ddau sydd yn unig gwmni gyda'i hen fam alarus yn Ninbych : a'r hynaf (yr hwn y mae ei enwi yn ddigon yn yllinellau hyn), sef y Parch. W. Jones, o Amíwch, a dderbyniwyd yn aelod o'r un eglwys a'i rieni pan yn ieuanc iawn, scf yn y fl. 1808, ac a dde- chrcuodd bregethu yn 1810. Gan fod y gwron enwog hwn ctto ár y maes,dychwelwn oddiwrtho ef trwy ddweyd, yprofwyd ynddowirionedd geiriau Solomon, " Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawrj a'r neb a gen- hedlo fab doeth, a lawenycha o'i blcgid. Dy dad a'th fam a Iawén- yeha; a'r hon a'th ymddyg a orfol- edda.'' Bu W. J. yn aelod eghvysig am 59 o flynyddau j a bu yn swyddog- ffyddlon am agos i 40 mlynedd. Rai blynyddoedd cyn ei ymddatod- iad, gwanhaodd ei olwg naturiol yn raddol, nes pallu, a thywyllu yn hollol; ond yr oedd llygaid ei fedd- wl yn glir, ac yn cryfhau o hyd. Dangosai feddwl hollol ymroddgar i ewyllys ei Arglwydd; ac ni chlyw- id ef byth yn grwgnach nac yn cwyno ei golled. Dywedai yn fyn- ych, "Yr Arglwydd ywefe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg." Dadfeiliodd ei natur yn raddol, heb unrhywglefyd,nac ondychydig o boen; ond fel haul ei ddydd, prydnawniodd, a machludodd yn naturiol. "Daeth mewn henaint i'r bedd, fel y cyfyd ysgafn o ýd yn ei hamser." "Bu farw mewn oed- ran têg, ac yn gyflawn o ddyddiau,''