Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ÿ DYSGEDYDÖ. Rhîf. 185.] EBRILL, 1837. [Cyf. XVI. COFIANT MR. JOHN MORRIS, O FLAENBYWYDD, FFESTINIOG. (jrWIR yw mai gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd ydyw marwolaeth ei saint ef, a bod coftadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig pan fyddo enw yr annuwiol yn pydru; ond aml yr achlysurir cwynfan, i ryw ddoeth ddybenion, oblegid ymadawiad cyfeillion crefyddol â'r fuchedd hon, yr hyn sydd yn un o brif anghysuron y bywyd hwn, yn gymmaint a bod y saint yn gymdeifhas ogoneddus i ddwyn beichiau eu güydd, ac y maent ar y maes yn cynnorthwyo eu gilydd i gael pen y gelyn i lawr, fel y byddo iddynt yn y diwedd fod yn fwy na choncwerwyr trwy yr hwn a'u carodd; ac yna, wedi y dattoder y daearol dŷ o'r babcll hon, câut dŷ nid o waith llaw tragy- wyddol yn y nefoedd, a choron gogoniaut, yn gymmaint ag y carant ei ymddangosiad ef. Y rhai hyny asymudir foreuafodeyrnas y tywyllwch i deyrnas ei anwyl Fab ef Iesu Grist, yn gyffredin a roddant eu hysgwydd- au dŷnaf o dan yr arch, a gynnyddant fwyaf mewn gwybodaeth, aflodeuant fwyaf mewn santeiddrwydd, ac a ymddyscleiriant fwyaf mewneglwysi; ettosymudir rhai ynieuainc oddiwrth eu gwaith at eú gwobr, megys y cafodd gwrthddrych y cofiant hwn, pan yn un ar hugain mlwydd oed; a chan ei fodyn dclyn ieuanc rhinweddol, ac yn Gristion da, dichon y bydd ychydig o hanes ei fy wyd yn dderbyniol gan, ac yn llesol, yu neillduol Pch babanod ymofyngar. Ganwyd John Morris Ionawr lOeg, 1813. Enw ei rieni oeddMorrisac Rlizabeth Jones, y rhai a fuont ymdrechgar i roddi iddo, yn moreu ei oes, gymmaint o fanteision dysg- eidiaeth ag a ganiataai eu hamgylchiadau. Dangosodd yntau yn moreu ei oes fod ei 13 gynneddfau yn gryfion a'i dalentau yn dra lluosog; oblegid pa beth bynag yr ymaflai ynddo, buan y gwelid ei gynnydd yn eglur i bawb, yn neillduol gyda'r gelfyddyd o ddarllen a chanu mawl. Yn hyn yr oedd yn rhagori yn fawr ar bawb o'i gyfeillion. I Ei foesau yn gyfFredin oeddynt dra rheol- I aidd; ond treuliodd y deunaw mlynedd I cyntaf o'i oes heb ymroddi yn gyflawn i I waith a gwasanaeth yr Arglwydd, nac i ymlynu wrth grefydd a duwioldeb, oblegid yr hyn y cwynai yn aml ac y mynych gyf- addefai, mai ei alar gwastadol oedd ei fod wedi treulio eymmaint oM amser heb elwa dim erbyn marw, aehloffì rhwngdau feddwl j ac wedi iddo dori y ddadl, troes ei wyneb tua Seion, ac âi yn mlaen dan gerdded ac wylo yn gywir tuag yno. Dywedai ei íbd wedi penderfynu ymarfer â'r diwydrwydd mwyaf a allai i wneyd rhywbeth dros lesu Grist, ac i drysori ei drysor yn y nefoedd, Ile nad oes na gwyfyn na rhwd yn Hygru, i'r hwn benderfyniad y dygai ffrwythau addas, fel y barnodd yr eglwys yn drabuan fodcymmaint o deimlad ynddo o'i drueni,ae ystyriaeth o'i rwymau i Ben yr Eglwys, fel yr oedd wedi ei ogwyddo yn wirfoddol i gymineryd achos Iesu fel ei wrthddrych penaf, y dylesid ei dderbyn i gymmundeb; ac felly yn y flwyddyn 1832 derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r EglwysGynnulleidfaol yn Bethania, gan ein Parchedig Weinidog Thomas Davies. Gellir dywedyd am dano ef, Yr hyn a allodd hwn, efe a'igwnaeth er ateb i'w ymrwymiadau, trwy fod yn Grist- ion effro, diwyd a llafurus gyda holl gyf- lawniadau crefydd. Yn mhob cylch yr yradroai byddai yn ffyddlou i'w lenwi gyda