Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibykwr." Hen Gyf.—794. EBRILL, 1888. Cyf. Newydd-194. GAN Y FARCH. J. RENNEDY, M.A., D.D., LLUNDAIN. Yr ydych yn hòni yr hawl o ethol eich gweinidog heb ymyriad unrhyw awdurdod o'r tu allan, yn wladol nac yn eglwysig; ac yr ydych yn ddiolch- gar, yn yr oes hon o ryddid, am y gellwch ymarfer yr hawl yma heb fod neb yn meiddio nac yn awyddu peri i chwi ofn. Ond y mae yr hawlfraint hon a'r rhyddid hwn yn cynwys cyfrifoldeb difrifol ag y gweddai i chwi ei ystyried yn ddwys. Yr ydych wedi arfer canu mewn cyfarfodydd sefydl- iad fod yr achos sydd yn hawlio gofal y gweinidog yn gyfryw ag " a allai lanw calou angel, ac a lanwai law ein Gwaredwr." Ac nid oes ormodiaith yn y geiriau hyn. Ni ddewÌ8Îr gweinidog fel y gallo eich difyru yn wyth- nosol âg anerchiad a fyddo i'ch clustiau megys " cerdd felus," neu i'ch dealltwriaeth megys symbyliad pleserus. Mae ei swydd ef i ymwneud â'ch natur ysbrydol. Heb ddim o'r offeiriad, ei bryder sydd am " y pethau a berthyn i Dduw." Mae ei gyfrifoldeb yn fawr, oblegid gwylia dros eneid- iau fel un sydd raid iddo roddi cyfrif (Heb. xtii. 17), a gellir mesur eich cyfrifoldeb chwi wrth ei gyfrifoldeb ef yn nghyflawniad ei ddyledswyddau. Mae eich buddianau uchaf eich hunain a'ch plant, a llawer o'ch amgylch, yn gymhlethedig â'r dewisiad wneir genych. Dyma y syniad cyntaf ddymunwn argraffu arnoch,—difrifóldéb eich gwaiíh o etìwl eich gweinidog, a chyfrifoldeb pob un a gymero ran yn hyny. Math o wireb foesol yw dweyd y dylai pob gweithred o'n bywyd fod yn gydwybodol. Nid oes ond ychydig weithredoedd yn ein bywyd am y rhai y gellir dweyd yn fwy gwirioneddol nag am y weithred o bleidleîsio dros weinidog, y dylid ei chyrlawni " yn bwyllog, yn ystyriol, ac yn ofn Duw." Gellwch hawlio gwneud yr hyn a ewyllysioch â'ch eiddo eich hun, a phleidleisio fel y mynoch, ond y mae dedwyddwch eraill yn gystal a'ch cysur eich hun yn gynwysedig yn eich pleidlais chwi, ac mor bell a hyny yr ydych yn gyfrifol i'ch cydaelodau, ac uwchlaw y cwbl yn gyfrifol i Ben yr Eglwys. Yr ydych ar fedr cyíUwni yr hyn a duedda i lwyddiant neu waethygiad Eglwys Crist—ei gallu nou ei methiant i gwblhau ei swyddog- aeth mewn dwyn eneidiau at Dduw, a'u hadeiladu mewn daioni ysbrydol, Ni chyfeiliornem yn mhell pe dywedem y dylid cyflawni gweithred sydd yn cynwye y fath bosiblrwydd gydag ofn a dychryn. Y syniad nesaf a ewyllysiwn wasgu arnoch ywy fod gwir weinidogÌGn yn anrhegion o eiddo Crist i'w Eglwys. Amser gynt rhoddodd apostolion a phrophwydi, a deil eto i roddi gweinidogion ac athrawon, Eph. iv. 8—12. Yr ydych yn credu hyn. Nid oes genych betrusder i roddi lle i hyn yn eiclicredoi ond peth arall ydyw rhoddi lle iddo mewn gwirionedd yn eìch K -;-*"'