Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD A'R HWN YR UNWID "YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.—807. MAT, 1SS9. Cyf. Newydd.-207. Efrçafiam im Enetfíju J#aar. GAN Y PARCII. OWEN EYANS, D.D., LLUNDAIN. " Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o'r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a diìywedodd, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Ma ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo, o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy.unig fab, oddiwrtliyf fi."—Gen. xvii. 11, 12. Ac y mae hyn yn ein harwain at y rnater arall— II. TJfüdd-dod ardderchog Äbraham yn ngwyneb y prawf. 1. Maeyn ufuddhau yn ddiocd, hcb betruso na gwrthddadlcu. Buasai yn hawdd iddo gael lluaws o esgusodion a gwrthddadleuon yn erbyn ufuddhau i'r gorchymyu. Gallasai ofyn, Pa foddy gallasai ddangosei wynebi Sarah ar ol dychwelyd adref, a gwaed Isaac ar _ei ddiîlad; a gallasai ddadieu fod arno ofn iddf ei gas.iu am ladd ei hunig a'i hanwyl fab, a thori ei chalon, a disgyn yn anainserol i'r bedd, gan ofid a galar ar ei ol; a gallasai ofyn, Pa fodd yr oedd y fath orchymyn yn gyson àg addewidion Dnw? &c. Gallasai hefyd ymbil, os oedd yn rhaid í'r weithred gael ei chyflawni, am i ry w law arall yn hytrach na'i law ef gael ei phenodi i wneud hyny. Yn lle gwrthddadleu, dangosodd bob parodrwydd i ufuddhau. ^Ymddengys iddo gael y gorchy- myn yn y nos. Ynay mae yn "borcgodî" (adn. ü), i wneud y parotoadau angenrheidiol i'r daith. Ni ynganodd un gair wrth Sarah, mai Isaac oedd i fod yn aberth, rhag iddi gynyg ei rwystro, tra y bnasai yn dda gan lawer un, o dan y fath amgylchiadau, gael achlysur i roddi bai ar ei wraig, a gwneud ei gwrthwynebiad hi yn esgus dros ysgoi y weithred. Ond nid oedd Abraham yu chweuych cael unrhyw esgus dros esgeuluso ei ddyled- swydd, er mor chwerw ydoedd. Yr oedd Lot yn hwyrfrydig i gychwyn o Sodom, ar orchymyn Duw, er cael ei rybuddio fod y lle yn ymyl myned ar dân. Ond ni ddançosodd Abraham unrhyw hwyrfrydigrwydd i gychwyn i ben Moriah, i aberthu ei fab, ar orchymyn Duw. Ni bu yn cloffi dim rhwng dau feddwl. Yn y fan nid ymgynghorodd â chig a gwaed. 2. Mae yn ufuddhau gyda thawrlu'ch a hununfeddiant nodedig. Fel y gwelsom eisoes, nid dyn oer, fel cerflun wedi ei wneud o gareg, ond dyn o galon gynhes, ac o deimladau tyner iawn oedd Abraham, nis gall neb byth ddarlunioyr ing meddwl a ddyoddefodd o'r foment y derbyniodd y gorchy- myn i aberthu Isaac, hyd nes y galwyd arno, trwy lais o'r nef, ar ben Moriah, i atal ei law. Ac eto, fe fedrodd hollti y coed â'i law ei hunan, cyn cychwyn, gyda'r fath hunanfeddiant a phe na buasai ond yn cyfìawni rhyw orchymyn cyffredin, er mai coed i losgi ei fab—oedd fel canwyll ei lygad—yn boethoffrwm, oeddynt. Ac fe lwyddodd i gadw y gyfrinach ofn- adwy yn ei fynwes am dridiau mor ddirgelaidd fel na chafodd Isaac a'r