Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: A'E HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.— 811. MEDI, 1S89. Cyf. Newydd.—211. -i , - , , ......,,, 9 IlstUftuoIimt Crçfgbír g €afrau. Ânerchiad a draddodwgd yn Nghyfarfod yr Undéb Cymreig. GAN HERBER. Er fy mod yn credu na f wriadwyd i olwynion amser droi yn eu hol, ond yn eu blaen; ac mai gorchymyn yr Arglwydd i'r arweinydd yn mhob oes ydyw —" Dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt" ac fod yna un haul na chafodd yr un Josua ganiatad i beri iddo sefyll—haul cynydd par- haus sydd yn esgyn yn uwch i'r làn yn ddidor, ac yn llenwi'r ddaear â mwy o wybodaeth o oes i oes,—eto yr wyf yr un mor argyhoeddedig na ddylem anwybyddu a diystyru gweithwyr glewion, dyoddefwyr mawrion, a lafurias- ant ac yr aethom ni i fewn i'w llafur hwynt. Mae'n bosibl nad oedd y gwreiddyn ddim mor hardd a'r blodeuyn prydferth a dyf oddiarno, ond y mae y naill yn anmhosibl heb y llall. Y mae'n anmhosibl i'r dyn sydd heb wybod rhywfaint ani y gorphenol ddeall y presenol, na deall ei hun chwaith. Oblegid fel y mae natur y tir trwy ba un y mae'r afon wedi llifo yn effeithio ar liw a chnawd pob pysgodyn a chwareua rhwng ei cheulanau, felly y mae y gorphenol yn eífeithio ar bob dyn; a chyn y gall ddeall yn iawn yr hyn ydyw, a'r hyn a'i gwnaeth yr hyn ydyw, rhaid iddo wybod rhywfaint, a goreu oll pa fwyaf, am hanesiaeth y gorphenol. A phe gwyddai llawer yn ein plith yr hyn a gostiodd ein rhyddid i'n tadau, ni fuasai cynifer o'n plant heb esgym cefnau fel Ymneillduwyr. Y mae parchu yr hen yn brawf o nerth yn yr ieuanc —ac y mae dibrisio yr hen a'r gorphenol yn arwydd sicr o wendid mewn dyn, ac mewn cenedl hefyd. Y Bonaparte ieuanc sydd yn edmygwr dibendraw o Cesar, a ddaw yn benrhyfelwr ei hun. Yr Amerie- aniaid a ddylifant wrth y miloedd bob blwyddyn i edmygu ac i astudio yr hen yn Mhrydain ac Ewrop ydynt y mwyaf anturiaethus o bobl y byd. Yr edmygwyr mwyaf o'r hen, ydynt yn fwyaf byw ja y presenol, ac ydynt yn brif ddiwygwyr a darganfyddwyr i wneud daear newydd y dyfodol. Ac eto, yr wyf wedi cyfarfod â rhai, eu pleser mwyaf ydyw dirmygu yr hen. Hen lyfrau yn cynwys chwys ymenyddiau brenhinoedd anghoronedig y dyddiau gynt—" Na yn wir, ddarllenais i yr un o honynt, dda gen i ddim hen lyfrau!" Fel rheol, mi fyddaf i 'n galw ar y wraig i roi tê i un felly, ac yn myned i'r fyfyrgell at yr hen lyfrau. Y mae yr oes hon yn cynwys mwy o ddynion medrus (clever\ efallai, na'r un o'r blaen; ond y mae?n hawdd cyfeirío afc fwy nag un oes o'r blaen, a dweyd gyda phwyslais—i'Gawri oedd ar y ddaear y dyddiau hyny." Ac yr oedd y tadau Ymneillduol yn rhai o'r cewri penaf fel meddylwyr, fel awdwyr, ac fel diwygwyr. Ac y mae yr Ymneillduwr a fedr fyw oes heb wybod eu hanes yn profi ei faintioli ei hun —gobeifchiaf na ddywed wrth neb arall. 2 B