SCORPION. 385 "DYNION WEDI MBTHU AM FYCHANU." Beth sydd yn cyfrif atn hyn? Pan welaf ysgrif ddifríol, bigog, ya brathu, ac yn ymosod ar eraill, byddaf yn wastad yn cofio y dywediad uchod, ac yn cael allan, wedi deall pwy oedd yr ysgrifenydd, ei bod yn dal yn wir yn mhob oes, tref a chwmwd. Dywedir mai rhai wedi methu f«l awdwyr ydyw y beirniaid casaf ar lyfrau Uwyddianus, ac mti actors wedi methu ydynt yr ysgrifenwyr mwyaf condemniol ar y rliai sydd wedi cyr- haedd enwogrwydd. Y mae yo wir f«-l rheol am ddynion wedi methu yn mhob cylch cyhoeJdus, mai lîwy ydynt y parotaf i ddylorni a bychanu eu brodyr y myn pob cylch eu hanrhydeddu. Y mae llwyddiant yn melysu yebrydoedd dynion, ac y mae siomiant yn chwerwi eraill. Y mae llysiau rai yn troi pob peth yn wenwyn, tra y mae eraill yn eu hymyl yn troi yr oll yn íêl a melusder. Y mae rhai dynion yn casglu surni a chwerwder oddiwrth bob peth a glywant, hyd nes y mae ysuroi mor amlwg yn nghrychni eu trwynau a'u gwynebau, nes adgofio sylw Tanymarian—'y byddai trochi un o honynt yn llyn y Bala yn ddigon i'w droi yn finegr i gyd.' Priodol iawn y dywedodd Bion am y dyn cenfigenllyd pan welodd ef yn edrych yn bruddaidd a diflas,— "Y mae yn sicr ei fod wedi cyfarfod â siomedigaeth ei hun, neu ynte y mae wedi clywed fod rhyw un arall wedi cael anrhydedd neu godiad." Y mae dyn felly yn gwirio yr hen ddiareb Seisnig:—"Etwy shoots at otfters, lut hits itself" DR. ROBERTS, \VREXHAM, A'N GRASUSAF FRENHINES. Efe a ddewiswyd i gyflwyno anerchiad gweinidogion y tair sir, Dinbych, Meirionydd, a Fflint, i'w Mawrhydi. Derbyniodd lythyr wedi ei lawnodi ganddi yn cydnabod yr anerchiad, ac yn awr y mae Victoria wedi arwyddo ei pharodrwydd i dderbyn y ddwy gyfrol o bregsthau Cymreig a gyhoedd- wyd gan ein cydwladwr galluog. Y maent wedi eu rhwymo yn deilwng o le yn y Royal Library, ac yr ydym yn sicr eu bcd yn cynwys cynifer o emau prydfertb, a sy lwadau athrylithgar ag unrhyw ddwy gyfrol o bregethau yn ei llyfrgell. Yr ydym yn llongyfarch ein cyfaill, ac yn diolch fod yr anrhydedd wedi dyfod i wr mor deilwng. Pwy a wyr na fyn ei Mawihydi gyfieithwr cymhwys i'w galluogi i ddeall y pregethwr, ac os gwna, yr ydym yn sicr y gwel eu bod,—"Fel afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig." GAN MR. W. R. OWEN, LIVERPOOL. II. Mae ambell i ddyn y gellid ysgrifenu cofiant iddo drwy yn unig ail adrodd yr hyn a lefarodd efe am dano ei hun yn ystod ei fywyd. Sieryd mewn hwyl am y gwrhydri y bu efe yn alluog i'w gyflawni; traetha yn ddiddiwedd hanesion sydd yn myned a'i anadl ef ymaith, os nad eiddo ei wrandawyr, am ei weithredoedd nerthol; ac y mae wrth fodd ei galon pan yn adrodd helyntion yn mha rai y bu efe yn arddangos mwy o ddoethineb na neb arall. Cyhoedda ei farn yn ddibetrus uwchben pob achos a ddaw